Gwirfoddolwyr yn derbyn gwobrau Barcud Arian gan y Cadeirydd
21 Rhagfyr 2022
Yn y Ffair Aeaf eleni ar Faes y Sioe yn Llanelwedd, cynhaliodd Cyngor Sir Powys dderbyniad Gwirfoddoli ym Mhowys.
Fel rhan o'r derbyniad, derbyniodd grŵp cymunedol a dau unigolyn wobrau Barcud Arian gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, am eu gwaith gwirfoddol yn helpu eraill yn eu cymunedau. Yn derbyn Barcud Arian oedd:
- Fuelled by Cake
- Steph Burton
- Jen Craven
Clywodd gwahoddedigion a phwysigion gan Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt a soniodd am sut mae gwirfoddoli'n allweddol i gymunedau Powys a sut mae'r cyngor wedi gweithio gyda'i bartner PAVO sef Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, i greu rhwydwaith o Fannau Cynnes ynghyd â Costau Byw.
Clywyd hefyd wrth y siaradwr gwadd Clair Swales, Prif Weithredwr Dros Dro PAVO.
Dywedodd yr Arweinydd y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Mae gwirfoddoli'n rhan bwysig o'n cymunedau ni felly roedd yn bleser cael trefnu'r derbyniad hwn a thalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr hynny sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymaint o bobl ym Mhowys."
Ychwanegodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe: "Roedd yn bleser cael cyflwyno'r gwobrau hyn yn ystod derbyniad Gwirfoddoli ym Mhowys i bobl haeddiannol iawn sydd wedi cael effaith go iawn ar eu cymunedau. Llongyfarchiadau i bawb."