Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyhoeddi Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Powys

Image of a cycle path sign

28 Rhagfyr 2022

Image of a cycle path sign
Wedi ymgysylltu'n helaeth â chymunedau a rhanddeiliaid, mae Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir (ATNM) ac maent bellach wedi'u cymeradwyo'n swyddogol gan Lywodraeth Cymru.

Gellir gweld y mapiau, sy'n dangos llwybrau teithio llesol cyfredol a manylion llwybrau uchelgeisiol yn y dyfodol mewn 11 ardal teithio llesol dynodedig yn y sir (fel y'u diffinnir gan Lywodraeth Cymru), ar safle DataMapWales a gynhelir gan Lywodraeth Cymru yma: https://datamap.gov.wales/maps/active-travel-network-maps

"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl sy'n cerdded ac yn beicio," eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werdd.

"Yn y bôn, mae hyn yn golygu ein bod yn ymdrechu i'w gwneud hi'n bosibl i ni i oll wneud teithiau byr fel ein taith gymudo i'r gwaith, yr ysgol neu'r siopau lleol, drwy ddulliau sy'n llesol yn gorfforol, fel cerdded neu feicio.

"Nid yn unig y mae gan deithio llesol fanteision iechyd a lles enfawr i ni i gyd, ond drwy flaenoriaethu cerdded a beicio, yn hytrach na defnyddio'r car ar gyfer teithiau byr, lleol rydym hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd presennol. Bydd llai o ddibyniaeth ar ein ceir yn cyfrannu'n fawr wrth ein helpu ni i wireddu ein huchelgais i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir bod rhaid i gerdded a beicio fod yn ddull naturiol o ddewis ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach ar y cyd â dulliau cynaliadwy eraill, a bydd y buddsoddiad parhaus mewn llwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon.

"Mae'r ATNM hyn sydd newydd eu cyhoeddi ledled Powys, a ddatblygwyd gyda chymorth cymunedau lleol, yn dangos ardaloedd a allai gael eu gwella i alluogi mwy o bobl i gerdded neu i feicio ar gyfer teithiau byr. Gallai'r gwelliannau hyn fod mor syml â darparu lle diogel i adael eich beic wrth i chi alw yn y siopau, ychwanegu croesfan ffordd i ganiatáu i ddisgyblion gerdded i'r ysgol yn ddiogel, neu ehangu a gwella palmentydd i'w gwneud yn haws cerdded i'r dref gyda'r plant a bygi.

"Boed yn syniadau mawr neu awgrymiadau bychain, rydym yn ddiolchgar am adborth a mewnbwn pawb i greu'r mapiau hyn, a phob un ohonynt wedi bod yn hanfodol bwysig wrth greu gweledigaeth y gymuned o rwydweithiau teithio llesol ar gyfer y dyfodol ledled y sir."