Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae amser o hyd i fusnesau wneud cais am Ryddhad rhag Treth Hamdden a Lletygarwch

Image of money

30 Rhagfyr 2022

Image of money
Mae dal amser i fusnesau sy'n talu trethi busnes ym Mhowys wneud cais am Ryddhad rhag Treth yn y sector Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2022-23, yn ôl y cyngor sir.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys, yn cynnig gostyngiad o 50% ar fil trethi busnes ar gyfer eiddo sy'n cael ei feddiannu gan fusnesau cymwys.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob trethdalwr cymwys, gyda chap rhyddhad ar gyfer eich holl eiddo busnes hyd at £110,000.

Hyd yn hyn, mae 870 o fusnesau'r sir wedi gwneud cais am y rhyddhad, sydd wedi golygu lleihad o £3.4 miliwn yn eu biliau trethi busnes.

Mae'r rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth.  Gall enghreifftiau gynnwys siopau, tafarndai, bwytai, unedau hunan-arlwyo, clybiau chwaraeon a sefydliadau gwely a brecwast.

Mae'n rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais am y rhyddhad rhag treth. Ni chaiff ei ddyfarnu'n awtomig, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Meddai'r Cyng. David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'n amser anodd iawn i'r busnesau hynny yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, sy'n wynebu cyfnod economaidd heriol ar hyn o bryd ac ar yr un pryd yn ceisio ffynnu eto yn sgil y pandemig.

"Hoffwn annog unrhyw fusnes sydd heb wneud cais am y rhyddhad rhag treth i'w wneud ar unwaith.  Mae'r cynllun yn cau ar 31 Mawrth 2023, felly mae dal amser i fusnesau gyflwyno cais."

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys sut i gyflwyno cais, ewch i Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/2023.