Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trefnu digwyddiad galw heibio i drafod yr angen am dai yn Llansilin

Image of a house

3 Ionawr 2023

Image of a house
Bydd gwahoddiad i drigolion sy'n byw yn Llansilin a'r cyffiniau rannu'u barn am eu hanghenion tai mewn digwyddiad galw heibio yn ddiweddarach yn y mis.

Mae Cyngor Sir Powys, mewn cydweithrediad â Grŵp Cynefin, wedi trefnu sesiwn galw heibio a fydd yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Llansilin ddydd Sadwrn, 21 Ionawr rhwng 10 am a 1 pm.

Bydd Swyddogion Datblygu Tai y cyngor ar gael i ateb cwestiynau a rhoi mwy o wybodaeth i bobl ynglŷn â phrosiect tai newydd posib yn Llansilin. Bydd arolwg ar gael i bobl ei lenwi i helpu'r cyngor ddeall y galw am dai fforddiadwy yn Llansilin.

Bydd cyfle hefyd yn y sesiwn galw heibio i bobl ddarganfod sut y gallant gofrestru eu hangen am dai.

Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Ni allwn adeiladu'r Powys gryfach, tecach a gwyrddach yr ydym ei eisiau heb fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir. Yr unig ffordd y gallwn gyflawni hyn yw drwy gynyddu nifer y tai cyngor yn ein cymunedau, a bydd adeiladu cartrefi cyngor o ansawdd uchel yn ein helpu i wneud hynny.

"Bydd ein Tîm Tai Fforddiadwy yn gweithio mewn cymunedau ledled Powys i nodi tir addas ar gyfer tai a darganfod beth yw'r anghenion tai.

"Rydym am gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl a bydd y digwyddiad galw heibio hwn yn caniatáu i drigolion leisio'u barn.

"Byddem yn annog pob aelod o'r gymuned i ddod draw i'r digwyddiad hwn, ond yn enwedig pobl iau, wrth i ni gydnabod eu bod yn cael trafferth dod o hyd i lety fforddiadwy addas.

"Mae'r digwyddiad 'galw heibio yma'n bwysig gan y bydd yn ein caniatáu i gasglu barn trigolion a darganfod beth yw'r anghenion tai ar gyfer yr ardal yma."

Gall unrhyw un sy'n methu mynd i'r sesiwn galw heibio, ond sydd am lenwi'r arolwg i helpu'r cyngor ddeall y galw am dai fforddiadwy yn Llansilin, wneud hynny drwy ymweld â'r https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/anghenion-tai-yn-llansilin.

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mawrth, 31 Ionawr, 2023.