Toglo gwelededd dewislen symudol

Cae chwarae 3G newydd yn agor yn Llanfyllin

Photo of the new 3G pitch that has been installed at Llanfyllin Sports Centre

11 Ionawr 2023

Photo of the new 3G pitch that has been installed at Llanfyllin Sports Centre
Mae Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure wedi cyhoeddi bod cae chwarae 3G newydd sbon mewn canolfan chwaraeon yng ngogledd Powys bellach ar agor.

Mae archebion nawr yn cael eu cymryd ar gyfer y cae chwarae 3G newydd sydd wedi cael ei osod yng Nghanolfan Chwaraeon Llanfyllin.

Gorffennwyd y gwaith o osod y cae chwarae newydd y mis diwethaf (Rhagfyr).  Mae'r cyfleusterau'n cynnwys cynllun llifoleuadau gwell, gwaith draenio a ffensys ar hyd yr ymylon.  Cafodd y gwaith ei wneud gan Pave Aways Ltd.

Bydd y cae 3G yn addas ar gyfer pêl-droed, hoci ac amrywiaeth eang o chwaraeon awyr agored eraill.  Bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio gan gymunedau ac ymwelwyr yn ardal Llanfyllin a'r cyffiniau.

Mae gan y cyfleuster hwn arwyneb delfrydol ar gyfer misoedd y gaeaf pan fydd caeau chwaraeon glaswellt yn troi'n fwdlyd ac felly'n amhosib i'w defnyddio.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o'r rhaglen gyfalaf i wella cyfleusterau ar draws y sir i ddarparu budd cadarnhaol i iechyd a lles cymunedau Powys.

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Llewyrchus: Rwy'n falch iawn bod y cae 3G bellach ar agor ac rwy'n sicr bod y cymunedau chwaraeon yng ngogledd Powys yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r cyfleuster newydd hwn.

"Mae'r datblygiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau hamdden o safon, sy'n gynhwysol a chwbl hygyrch i gymunedau ym Mhowys.  Mae hefyd yn enghraifft wych arall o bartneriaeth rhwng y cyngor a Freedom Leisure."

Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Un o'r nodau yn y Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys a diweddarwyd yn ddiweddar yw gwella hawl a phrofiad dysgwyr.

"Bydd y cae chwaraeon newydd a fydd yn gwella'r cyfleusterau yn y ganolfan, yn helpu'r cyngor i gyrraedd y nod hwn. Nid yn unig y bydd aelodau'r gymuned yn elwa o'r cae newydd hwn, ond bydd hefyd yn darparu arwyneb pob tywydd i helpu dysgwyr i wella eu gallu chwaraeon a'u lles."

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure (Gogledd Cymru): "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhedeg y cae chwarae 3G newydd hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. Mae'n ychwanegiad gwych i'r gymuned leol, gan ganiatáu mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf."

Dywedodd Dewi Owen, Pennaeth Ysgol Llanfyllin: "Mae'r cae newydd yn edrych yn anhygoel ac yn mynd i fod yn hwb enfawr i'r ysgol ac i'r gymuned leol.

"Bydd y cynnydd yn nifer y bobl a fydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn sylweddol iawn a bydd hyn yn cael effaith hynod gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol disgyblion sy'n hanfodol yn y blynyddoedd hyn ar ôl y pandemig. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn i'n cymuned ni yma yng ngogledd sir Drefaldwyn.

"Mae ein disgyblion wedi cael eu rhyfeddu gan y gwaith adeiladu a hoffwn ddiolch i Pave Aways am y ffordd y maen nhw wedi cynnwys yr ysgol a'n disgyblion ym mhob cam o'r broses gyda theithiau o amgylch y safle a sesiynau gwybodaeth."

Dywedodd Jamie Evans, Cyfarwyddwr Adeiladu Pave Aways: "Rydym wedi mwynhau bod yn rhan o'r bartneriaeth gan ddod â'r cyfleuster newydd gwerthfawr hwn i'r gymuned.

"Rydyn ni wedi gallu dysgu mwy am adeiladu a'r broses o greu'r cae yma i'r plant felly rydym yn  gobeithio y byddwn wedi ysbrydoli rhai adeiladwyr y dyfodol.  Mae hefyd wedi bod yn fuddsoddiad pwysig yn economi Powys gyda'r defnydd o is-gontractwyr a deunyddiau lleol gyda'r cerrig yn dod o Gefn Coch ger Llanfair Caereinion."

Mae Pave Aways hefyd wedi rhoi £500 o offer chwaraeon i'r ysgol gan hefyd noddi cit ar gyfer tîm o 15 y bydd yr ysgol yn ei derbyn y mis hwn (Ionawr).

Os oes gan glybiau a mudiadau ymholiadau pellach am y cae chwarae neu i archebu sesiwn, cysylltwch â llanfyllin@freedom-leisure.co.uk neu ffoniwch Ganolfan Chwaraeon Llanfyllin ar 01691 648814.

Llun trwy garedigrwydd Pave Aways.