Cae chwarae 3G newydd yn agor yn Llanfyllin
11 Ionawr 2023
Mae archebion nawr yn cael eu cymryd ar gyfer y cae chwarae 3G newydd sydd wedi cael ei osod yng Nghanolfan Chwaraeon Llanfyllin.
Gorffennwyd y gwaith o osod y cae chwarae newydd y mis diwethaf (Rhagfyr). Mae'r cyfleusterau'n cynnwys cynllun llifoleuadau gwell, gwaith draenio a ffensys ar hyd yr ymylon. Cafodd y gwaith ei wneud gan Pave Aways Ltd.
Bydd y cae 3G yn addas ar gyfer pêl-droed, hoci ac amrywiaeth eang o chwaraeon awyr agored eraill. Bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio gan gymunedau ac ymwelwyr yn ardal Llanfyllin a'r cyffiniau.
Mae gan y cyfleuster hwn arwyneb delfrydol ar gyfer misoedd y gaeaf pan fydd caeau chwaraeon glaswellt yn troi'n fwdlyd ac felly'n amhosib i'w defnyddio.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o'r rhaglen gyfalaf i wella cyfleusterau ar draws y sir i ddarparu budd cadarnhaol i iechyd a lles cymunedau Powys.
Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Llewyrchus: Rwy'n falch iawn bod y cae 3G bellach ar agor ac rwy'n sicr bod y cymunedau chwaraeon yng ngogledd Powys yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r cyfleuster newydd hwn.
"Mae'r datblygiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau hamdden o safon, sy'n gynhwysol a chwbl hygyrch i gymunedau ym Mhowys. Mae hefyd yn enghraifft wych arall o bartneriaeth rhwng y cyngor a Freedom Leisure."
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Un o'r nodau yn y Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys a diweddarwyd yn ddiweddar yw gwella hawl a phrofiad dysgwyr.
"Bydd y cae chwaraeon newydd a fydd yn gwella'r cyfleusterau yn y ganolfan, yn helpu'r cyngor i gyrraedd y nod hwn. Nid yn unig y bydd aelodau'r gymuned yn elwa o'r cae newydd hwn, ond bydd hefyd yn darparu arwyneb pob tywydd i helpu dysgwyr i wella eu gallu chwaraeon a'u lles."
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure (Gogledd Cymru): "Rydym wrth ein bodd i fod yn rhedeg y cae chwarae 3G newydd hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. Mae'n ychwanegiad gwych i'r gymuned leol, gan ganiatáu mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf."
Dywedodd Dewi Owen, Pennaeth Ysgol Llanfyllin: "Mae'r cae newydd yn edrych yn anhygoel ac yn mynd i fod yn hwb enfawr i'r ysgol ac i'r gymuned leol.
"Bydd y cynnydd yn nifer y bobl a fydd yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn sylweddol iawn a bydd hyn yn cael effaith hynod gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol disgyblion sy'n hanfodol yn y blynyddoedd hyn ar ôl y pandemig. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn i'n cymuned ni yma yng ngogledd sir Drefaldwyn.
"Mae ein disgyblion wedi cael eu rhyfeddu gan y gwaith adeiladu a hoffwn ddiolch i Pave Aways am y ffordd y maen nhw wedi cynnwys yr ysgol a'n disgyblion ym mhob cam o'r broses gyda theithiau o amgylch y safle a sesiynau gwybodaeth."
Dywedodd Jamie Evans, Cyfarwyddwr Adeiladu Pave Aways: "Rydym wedi mwynhau bod yn rhan o'r bartneriaeth gan ddod â'r cyfleuster newydd gwerthfawr hwn i'r gymuned.
"Rydyn ni wedi gallu dysgu mwy am adeiladu a'r broses o greu'r cae yma i'r plant felly rydym yn gobeithio y byddwn wedi ysbrydoli rhai adeiladwyr y dyfodol. Mae hefyd wedi bod yn fuddsoddiad pwysig yn economi Powys gyda'r defnydd o is-gontractwyr a deunyddiau lleol gyda'r cerrig yn dod o Gefn Coch ger Llanfair Caereinion."
Mae Pave Aways hefyd wedi rhoi £500 o offer chwaraeon i'r ysgol gan hefyd noddi cit ar gyfer tîm o 15 y bydd yr ysgol yn ei derbyn y mis hwn (Ionawr).
Os oes gan glybiau a mudiadau ymholiadau pellach am y cae chwarae neu i archebu sesiwn, cysylltwch â llanfyllin@freedom-leisure.co.uk neu ffoniwch Ganolfan Chwaraeon Llanfyllin ar 01691 648814.
Llun trwy garedigrwydd Pave Aways.