Y Gyllideb ddrafft
16 Ionawr 2023
Mae'n cydbwyso'r angen i ddarparu gwasanaethau cadarn am gost fforddiadwy ac i amddiffyn y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas, ond ar yr un pryd parhau gyda thaith y cyngor tuag at ei nod o garbon sero net erbyn 2030.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor: "Dyma'r broses anoddaf erioed y mae'r cyngor sir wedi'i brofi i osod y gyllideb. Mae effaith cost chwyddiant o dros 10%, yr angen i gynyddu cyflogau staff i gwrdd â'r argyfwng costau byw a chynnydd enfawr yn y galw am ofal cymdeithasol o ganlyniad i'r ffliw, Covid-19 a'r argyfwng yn y GIG, wedi cyfuno i greu sefyllfa anodd iawn.
"Ond ar ôl llawer o waith manwl a setliad grant gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru rydym wedi gallu cyfyngu'r cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor i 3.8% ar gyfer gwasanaethau'r cyngor, ymhell islaw'r gyfradd chwyddiant ar hyn o bryd, gyda 1.2% yn rhagor i dalu am y cynnydd digynsail yn ardoll flynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub a gorfodwyd ar y cyngor."
Cafodd y farn ei chefnogi gan y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd, a dywedodd: "Fel Cabinet newydd dywedon y byddem yn gryfach, yn decach ac yn wyrddach ac mae'r gyllideb hon yn cyflawni ar y themâu hyn. Rydym wedi canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau fel ein llyfrgelloedd a'n ffyrdd; a chynnal cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n cefnogi pobl yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn, gan weithredu mesurau i dorri costau ynni a'n symud yn agosach at sero net."
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Os fydd llywodraeth nesaf y DU yn glynu at y cynlluniau gwariant main a gynigir gan y llywodraeth bresennol, disgwylir y bydd setliadau ariannu'r dyfodol yn gostwng, ac mae dadansoddwyr yn adrodd y byddai hyn bron yn sicr yn awgrymu dychwelyd i gyfnod o doriadau gwariant.
"Mae'n hanfodol ein bod yn symud y cyngor i sefyllfa y gall ymateb i'r her honno'n llwyddiannus. Mae'r gyllideb hon yn gwneud hynny ac yn rhoi sefyllfa sefydlog i ni gynnal adolygiad mawr o wasanaethau'r cyngor i'w paratoi at y dyfodol."
Ychwanegodd y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Mae'r cythrwfl economaidd a grëwyd gan Brexit ac ansicrwydd Byd-eang na allwn barhau â busnes fel arfer. Mae wedi bod yn dasg anodd i gydweithwyr ar y Cabinet i gydbwyso'r llyfrau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
"Rydyn ni nawr yn cychwyn ar yr her anoddach fyth, o weithio gyda'n cymunedau lleol a'n sefydliadau partner i ddiogelu gwasanaethau'r dyfodol tra'n darparu cyllidebau cytbwys yn wyneb dyfodol hynod ansefydlog."