Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dal i fod amser i roi eich barn ar gynlluniau cyfrwng Cymraeg Ysgol y Cribarth

Image of Ysgol y Cribarth

17 Ionawr 2023

Image of Ysgol y Cribarth
Mae llai na tair wythnos ar ôl i bobl rhoi eu barn ar gynlluniau i gyflwyno ffrwd cyfrwng Cymraeg mewn ysgol gynradd yn ne Powys.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig symud Ysgol y Cribarth yn Abercraf ar hyd y continwwm iaith trwy sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol.

Ar hyn o bryd, ysgol cyfrwng Saesneg yw hi, sy'n darparu addysg i ddisgyblion 4 - 11 oed.

Byddai'r newid arfaethedig yn golygu cyflwyno ffrwd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Cribarth o fis Medi 2023, fyddai'n rhedeg ochr yn ochr â ffrwd Saesneg yr ysgol.

Mae'r cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynnig ac mae ganddynt tan ddydd Llun, 6 Chwefror, 2023 i roi eu barn.

Meddai'r Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Ers mis Medi 2021, mae Ysgol y Cribarth wedi cael dosbarth cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen ar sail beilot, fel rhan o gynllun a gefnogwyd gan y cyngor.

"Mae'r dosbarth wedi parhau i redeg yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol ac ar hyn o bryd mae 20 disgybl yn y dosbarth cyfrwng Cymraeg.

"Er mwyn cynnig parhad o ran darpariaeth i ddisgyblion sy'n mynd i'r ddarpariaeth beilot, ac i sicrhau eglurder i'r ysgol o ran y dyfodol, mae'r cyngor wedi ystyried opsiynau ar gyfer categori iaith yr ysgol yn y dyfodol, gyda'r nod o sicrhau y gellir parhau i gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol.

"Byddai hyn yn golygu y byddai gan ddisgyblion yr ardal gyfle i ddewis y ddarpariaeth hon, fyddai wedyn yn rhoi cyfle iddynt ddod yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg, a thrwy hynny cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Hefyd byddai'n ategu nodau a dyheadau'r cyngor a amlinellir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) ar gyfer 2022-32 a Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

"Er hynny, mae'n bwysig fod cymuned Ysgol y Cribarth a'r sawl sy'n byw yn yr ardal ehangach yn cael dweud eu dweud ar y cynigion hyn. Hoffwn eu hannog i anfon eu sylwadau atom, er mwyn inni eu hystyried."

I ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i Trawsnewid Addysg a dilynwch y dolenni i gyflwyno eich sylwadau ar-lein.

Fel arall, gallwch anfon ebost atom: school.consultation@powys.gov.uk neu drwy'r post at: Y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.

I ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith.