Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cyngor yn rhoi rhybudd am gwmni effeithlonrwydd ynni

Image of air source heat pumps

23 Ionawr 2023

Image of air source heat pumps
Mae preswylwyr y sir yn cael eu rhybuddio bod cwmni sy'n gwneud gwaith effeithlonrwydd ynni wedi bod yn hysbysebu grantiau ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar ar Facebook ac yn defnyddio logo Cyngor Sir Powys heb ganiatâd.

Mae iEnergy Limited o Birmingham wedi bod yn defnyddio logo Powys i hyrwyddo cyllid grant ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref trwy hysbysebion wedi'u noddi ar Facebook.

Mae iEnergy yn defnyddio'r logo gan awgrymu ar gam, fod y cyngor wedi eu cymeradwyo a'u bod mewn partneriaeth â'r cwmni.

Mae'r logo yn nod masnach gofrestredig sy'n perthyn i Gyngor Sir Powys ac nid yw iEnergy Limited wedi cael caniatâd i'w ddefnyddio. Nid yw'r cyngor yn cymeradwyo'r gwasanaethau mae'r cwmni'n ei ddarparu ychwaith.

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at iEnergy Limited yn gofyn iddynt i roi'r gorau i ddefnyddio logo Powys ar hysbysebion sy'n ymddangos ar Facebook a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Tecach: "Rydym yn deall bod nifer o gwmnïau ar draws y DU yn darparu ac yn gosod ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni fel rhan o Rwymedigaeth Cwmni Ynni y llywodraeth (ECO).

"Ond mae defnydd iEnergy Limited o'n logo wedi rhoi'r argraff i breswylwyr Powys sydd wedi gweld yr hysbyseb yma ar Facebook fod y cyngor wedi cymeradwyo'r cwmni.

"Nid ydym wedi rhoi caniatâd i'r cwmni yma ddefnyddio ein logo a dydyn ni ddim yn cymeradwyo'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.

"Os bydd y cwmni'n parhau i ddefnyddio ein logo, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol priodol yn ei erbyn."

Mae gan y cyngor gynllun i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ym Mhowys. Drwy'r cynllun ECO4 Flex gellir gwneud gwelliannau ynni yn y cartref ac mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno ar ran y cyngor gan Gymru Gynnes , cwmni budd cymunedol sy'n arbenigo mewn darparu rhaglenni sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Bydd Cymru Gynnes yn darparu cynllun a reolir yn llawn, yn derbyn ymholiadau, cynnal asesiad o gymhwysedd cleientiaid ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda darparwyr ynni ac asiantau sydd wedi ymrwymo i gyflwyno mesurau o dan y cynllun.

"Mae ECO4 Flex yn cael ei ystyried fel sbardun allweddol ar gyfer nod y cyngor o leihau tlodi tanwydd, tra'n cyfrannu ar yr un pryd tuag at leihau allyriadau carbon o gartrefi domestig, sydd ym mherchnogaeth neu wedi'u meddiannu gan bobl sy'n methu talu am welliannau eu hunain," meddai'r Cynghorydd Dorrance.

"Byddwn yn annog unrhyw un yn y sir sy'n byw mewn tlodi tanwydd i gysylltu â Chymru Gynnes."

I gael gwybod rhagor am y Cynllun Arbed Ynni Powys Cymru Gynnes, ewch i https://www.warmwales.org.uk/cy/cynllun-arbed-ynni-powys-cymru-gynnes/ neu ffoniwch 01656 747 622.