Cwrs cymorth cyntaf brys am ddim ar gyfer beicwyr modur Powys
31 Ionawr 2023
Mae'r cwrs yn cynnwys pynciau megis:
- Rheoli lleoliad damwain
- Cymorth cyntaf ar gyfer beicwyr modur
- Yr wyddoniaeth o gael eich gweld
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sy'n cyflwyno'r cwrs, ac mae ar gael am ddim i drigolion ac unigolion sy'n defnyddio ffyrdd Powys, diolch i'r Grant Diogelwch Ffyrdd a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach yn awyddus i hyrwyddo'r cwrs am ddim. "Mae beicwyr modur yn dueddol o deithio mewn grwpiau neu barau, ac fel arfer pan fydd un yn cael damwain, y person cyntaf i gyrraedd y lleoliad fydd un o'i gyd-feicwyr.
"Nod cwrs Biker Down! Cymru yw rhoi gwell dealltwriaeth i gyfranogwyr am yr hyn i'w wneud os byddant yn gweld neu'n dod ar draws damwain traffig sy'n cynnwys beicwyr modur, a sut i reoli'r sefyllfa'n ddiogel.
"Mae rhwydwaith ffyrdd deniadol a helaeth ein sir yn denu beicwyr modur, felly mae'n hanfodol bwysig rhoi'r sgiliau iddynt i allu cadw'n ddiogel a rheoli argyfyngau. Ochr yn ochr â'n Cynllun Estynedig i Feicwyr Modur, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod ffyrdd Powys mor ddiogel â phosibl."
Dyddiadau'r cwrs: 3 Chwefror, 3 Mawrth a 31 Mawrth 2023
Amser: 18:30 - 21:30
Lleoliad: Gorsaf Dân Y Drenewydd, Ffordd Llanidloes. SY16 1HF
Mae lleoedd cyfyngedig ar y cyrsiau hyn, sydd am ddim, ac maent yn llenwi'n gyflym. Felly cysylltwch cyn gynted ag y gallwch i gadw eich lle: 01597 826924 neu miranda.capecchi1@powys.gov.uk