Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwrs cymorth cyntaf brys am ddim ar gyfer beicwyr modur Powys

Image of a motorcycle helmet on the road and the Biker Down Cymru logo

31 Ionawr 2023

Image of a motorcycle helmet on the road and the Biker Down Cymru logo
Cwrs cymorth cyntaf brys am ddim yw Biker Down! Cymru ar gyfer Beicwyr modur sydd am ehangu eu gwybodaeth ac ymestyn eu profiad wrth ddelio gyda digwyddiadau neu wrthdrawiadau lle mae angen cymorth cyntaf ar ochr y ffordd efallai.

Mae'r cwrs yn cynnwys pynciau megis:

  • Rheoli lleoliad damwain
  • Cymorth cyntaf ar gyfer beicwyr modur
  • Yr wyddoniaeth o gael eich gweld

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sy'n cyflwyno'r cwrs, ac mae ar gael am ddim i drigolion ac unigolion sy'n defnyddio ffyrdd Powys, diolch i'r Grant Diogelwch Ffyrdd a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach yn awyddus i hyrwyddo'r cwrs am ddim. "Mae beicwyr modur yn dueddol o deithio mewn grwpiau neu barau, ac fel arfer pan fydd un yn cael damwain, y person cyntaf i gyrraedd y lleoliad fydd un o'i gyd-feicwyr.

"Nod cwrs Biker Down! Cymru yw rhoi gwell dealltwriaeth i gyfranogwyr am yr hyn i'w wneud os byddant yn gweld neu'n dod ar draws damwain traffig sy'n cynnwys beicwyr modur, a sut i reoli'r sefyllfa'n ddiogel.

"Mae rhwydwaith ffyrdd deniadol a helaeth ein sir yn denu beicwyr modur, felly mae'n hanfodol bwysig rhoi'r sgiliau iddynt i allu cadw'n ddiogel a rheoli argyfyngau. Ochr yn ochr â'n Cynllun Estynedig i Feicwyr Modur, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod ffyrdd Powys mor ddiogel â phosibl."

Dyddiadau'r cwrs: 3 Chwefror, 3 Mawrth a 31 Mawrth 2023
Amser: 18:30 - 21:30
Lleoliad: Gorsaf Dân Y Drenewydd, Ffordd Llanidloes. SY16 1HF

Mae lleoedd cyfyngedig ar y cyrsiau hyn, sydd am ddim, ac maent yn llenwi'n gyflym. Felly cysylltwch cyn gynted ag y gallwch i gadw eich lle: 01597 826924 neu miranda.capecchi1@powys.gov.uk