Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn gofyn i drigolion 'Trochi mewn Darllen' i elwa o fuddion llesiant dros y gaeaf eleni

Dip into Reading

2 Chwefror 2023

Dip into Reading
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys ar y cyd â'r elusen genedlaethol The Reading Agency yn hyrwyddo'r cysylltiad rhwng darllen yn rheolaidd a gwell canlyniadau iechyd dros y gaeaf eleni.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru'n rhan o'r ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus 'Trochi mewn Darllen'; ei nod yw hyrwyddo pobl i ddarllen ychydig bob wythnos er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant trigolion.

Dengys ymchwil fod oedolion sy'n darllen am ddim ond hanner awr bob wythnos yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon gyda'u bywyd, a bod eu hunan-barch yn well, ac yn gallu ymdopi gyda sefyllfaoedd anodd yn well[1], gyda defnyddwyr llyfrgelloedd yn dweud fod eu hiechyd cyffredinol yn well na phobl nad ydynt yn defnyddio'r llyfrgell.[2]

Yn ôl y Cyng. David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Llewyrchus: "Mae'n wych gallu cydweithio gydag elusennau cenedlaethol i helpu codi ymwybyddiaeth a chefnogi iechyd meddwl a llesiant ar draws ein sir.

"Hoffwn annog pawb sy'n byw ym Mhowys i 'Drochi mewn Darllen' dros y gaeaf. Hwyrach taw darllen ychydig yw'r balm sydd ei angen arnoch; a gallwch ei wneud am ddim yn eich Llyfrgell leol."

Meddai Karen Napier MBE, Prif Weithredwr The Reading Agency: "Mae'r cysylltiad rhwng darllen yn rheolaidd a llesiant gwell yn hysbys, ac rydym yn hapus iawn i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru i ledu'r neges hon i'r cyhoedd ac i ddathlu darllen dros y gaeaf hwn. Gwyddom y bydd ein gwaith o ran ysbrydoli ymgysylltu â darllen ar draws y DU yn bosibl diolch i ymrwymiad ein partneriaid megis llyfrgelloedd, a phleser mawr yw cydweithio gyda nhw ar ymgyrch 'Trochi mewn Darllen."

I ddysgu mwy, ewch i'ch llyfrgell leol, neu at: www.readingagency.org.uk a dewiswch 'Trochi mewn Darllen'.

Ar gyfer deunyddiau darllen awgrymedig, ewch i'ch llyfrgell leol, www.storipowys.org.uk neu dudalen Llyfrgelloedd Powys ar Facebook.