Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arolwg Llyfrgell Machynlleth

Image of library books in a library

2 Chwefror 2023

Image of library books in a library
Mae trigolion Machynlleth a Bro Ddyfi yn cael eu hannog i roi eu barn am y posibilrwydd o adleoli Llyfrgell Machynlleth unwaith y bydd ysgol newydd sbon y dref wedi'i hadeiladu.

Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i godi ysgol newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ers 2017 ar safle'r ysgol uwchradd i gymryd lle'r adeiladau ysgolion cynradd ac uwchradd presennol.

Mae'r cyngor eisiau adeiladu'r ysgol newydd a fydd â lle i 540 o ddisgyblion, gyda chyfleusterau blynyddoedd cynnar, ardaloedd ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16, ystafell gymunedol, canolfan anghenion dysgu ychwanegol, ardaloedd llesiant yn ogystal ag ardaloedd allanol a chae 3G.

Gallai'r dyluniad gynnwys lle i lyfrgell gyhoeddus pe bai angen.

Nawr mae'r cyngor eisiau barn trigolion sy'n byw ym Machynlleth a Bro Ddyfi ynghylch a ddylai llyfrgell y dref adleoli i adeilad newydd yr ysgol cyn i'r dyluniadau gael eu cwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Selby, Aelod Cabinet am Bowys Ffyniannus: "Yr adeilad newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen fydd yr adeilad ysgol Passivhaus cyfan gwbl cyntaf gan y cyngor a bydd yn darparu cyfleusterau rhagorol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.

"Bydd yr adeilad newydd hefyd yn rhoi cyfle i'r cyngor ddarparu lle ar gyfer llyfrgell gyhoeddus os oes angen.

"Fodd bynnag, hoffem glywed gan drigolion ym Machynlleth a Bro Ddyfi am y syniad o symud y llyfrgell i adeilad newydd yr ysgol."

I gymryd rhan yn yr arolwg ewch i www.dweudeichdweudpowys.cymru/ysgol-bro-hyddgen-datblygu-ysgol-newydd

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mawrth 28 Chwefror.