Toglo gwelededd dewislen symudol

Taclo'r 'ych-a-fi' i ryddhau pŵer eich ailgylchu gwastraff bwyd

Image of a plug with orange peel as the cord, to promote food waste recycling

6 Chwefror 2023

Image of a plug with orange peel as the cord, to promote food waste recycling
Efallai mai gwlad fach yw Cymru, ond rydyn ni'n wlad gref wrth ailgylchu. Mae 95% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff yn rheolaidd, rydyn ni eisoes yn drydedd genedl orau'r byd am ailgylchu, a nawr rydyn ni'n gweithio gyda Cymru yn Ailgylchu i gefnogi eu Hymgyrch Gwych i gael Cymru i rif 1.

Dyna pam rydyn ni'n galw ar ein preswylwyr i roi hwb i'w hymdrechion wrth ailgylchu gwastraff bwyd. 

Er bod bron i holl ddinasyddion Cymru'n ailgylchu eitemau bob dydd fel cardbord, nwyddau ymolchi o'r ystafell 'molchi, a photeli plastig, mae llawer yn parhau i beidio ag ailgylchu eu holl wastraff bwyd. A dweud y gwir, bwyd yw tua chwarter yr hyn sy'n cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd, a gellid ailgylchu pob tamaid ohono.

Mae pŵer yn ein gwastraff bwyd - mae'r rhan fwyaf o'r gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yng Nghymru'n cael ei anfon i gyfleusterau treulio anaerobig, ble caiff ei droi'n ynni gwyrdd. Ailgylchodd trigolion Cymru ddigon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi'r llynedd, ond gydag oddeutu 100,000 o dunelli o wastraff bwyd yn cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd - digon i bweru 7,500 yn rhagor o gartrefi - caiff yr ynni adnewyddadwy hwn sy'n brwydro newid hinsawdd ei golli am byth.

Datgelodd ymchwil WRAP Cymru mai'r rhwystr pennaf yw'r elfen 'ych-a-fi', gyda'r rhan fwyaf o bobl yn petruso oherwydd y posibiliad o arogleuon, gollyngiadau a llanast. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac mae'n lanach na'i roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos, ac mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu'n cael ei gasglu'n llai aml.

"Mae cynnwys ein cadi gwastraff bwyd yma ym Mhowys yn cael ei gasglu bob wythnos." Eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae hyn yn golygu ei fod yn llawer llai tebygol o ddechrau arogli a mynd yn ych-a-fi, na pe baech yn rhoi eich bwyd gwastraff allan gyda'r sbwriel yn y bin ar olwynion.

"Hefyd, wrth ddefnyddio'r leinars cadi bwyd sydd am ddim, mae'r holl  arogleuon a'r gollyngiadau posibl yn cael ei gadw cyn lleied â phosib.

"Mae pobl Powys eisoes yn gwneud gwaith gwych o ran ailgylchu, a gwastraff bwyd yw'r lle y gallwn ni gyd gwneud ein rhan a helpu'n uniongyrchol i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd."

Rydyn ni oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd anochel - fel plisg wyau, esgyrn, bagiau te a chrafion llysiau a ffrwythau - a dylid ei ailgylchu (os nad yw'n cael ei gompostio gartref) i greu ynni gwyrdd i helpu i bweru cymunedau yng Nghymru.

Dyma 5 tip defnyddiol ichi gan Cymru yn Ailgylchu:

  1. Defnyddiwch fag leinio cadi ¬- Bydd leinio eich cadi cegin yn cadw'ch gwastraff bwyd yn well, gan helpu i leihau arogleuon a gollyngiadau, a'i atal rhag mynd yn ych-a-fi. Rhowch fagiau leinio mewn cadi glân, sych, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n ei orlenwi, i osgoi torri'r bag leinio.
  2. Osgowch eitemau hylifol - Cadwch hylifau fel llaeth, sudd, neu olew coginio allan o'ch cadi i atal 'sudd bin' rhag casglu'n ei waelod. Cewch arllwys symiau bach o'r eitemau hyn i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddŵr i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio'r draeniau.
  3. Gwagiwch eich cadi gwastraff bwyd yn rheolaidd - gwagiwch gynnwys eich cadi cegin i'r bin gwastraff bwyd ar garreg y drws yn rheolaidd, cyn iddo fynd yn orlawn, i atal arogleuon a drewdod. Cofiwch glymu'r bagiau leinio cadi'n dynn cyn eu symud o'ch cadi i'ch bin. Os aiff eich cadi i ddrewi, yna mae'n bryd ichi wagio ei gynnwys i'ch bin gwastraff bwyd ar garreg y drws a dechrau o'r newydd gyda bag leinio newydd.
  4. Cadwch gaead arno - Efallai ei fod yn swnio'n amlwg, ond bydd cau caead eich cadi cegin yn atal pryfed rhag mynd iddo, ac yn atal arogleuon rhag dianc. Cofiwch hefyd gau'r caead cloadwy ar eich bin y tu allan yn sownd, i atal pryfetach a phlâu, a diogelu yn erbyn tywydd gwyntog.
  5. Cadwch eich cadi'n lân - Glanhewch eich cadi cegin bob ychydig wythnosau. Rhowch rinsiad iddo yn y sinc. I lanhau eich cadi'n fwy trwyadl, gallwch ei ddiheintio gyda dŵr poeth dros ben o'r tegell ac ychydig o hylif golchi llestri.

Os oes gennych lemon dros ben na fydd yn cael ei fwyta fel arall, gallech rwbio ei du mewn yn erbyn tu mewn eich bin. Mae'n ddiaroglydd naturiol a bydd yn helpu i ladd unrhyw germau a allai fod yn llechu yno.

Am ragor o haciau a tips, ac i ddarganfod sut mae eich gwastraff bwyd yn creu ynni, ewch i fwrw golwg ar https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha, ac ymunwch â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #ByddWychAilgylcha.