Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Neuadd Dolgerddon

Image of Dolgerddon Hall in Rhayader

6 Chwefror 2023

Image of Dolgerddon Hall in Rhayader
Mae eiddo yng nghanolbarth Powys a gafodd ei ddifrodi gan dân dros bedair blynedd yn ôl wedi cael ei gymryd yn ôl gan y cyngor sir.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Powys ei fod wedi sicrhau cael Neuadd Dolgerddan ger Rhaeadr Gwy ar ôl gweithredu fforffediad drwy ailddychweliad heddychol. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi gan dân yn 2018.

Er mai'r cyngor yw perchennog yr adeilad, mae prydles wedi bod mewn lle a oedd yn golygu fod y cyfrifoldeb dros Neuadd Dolgerddon gan ddeiliad y prydles.

Mae'r cyngor wedi ceisio gweithio â'r prydleswr a'i gynghorwyr i sicrhau'r canlyniad gorau i'r eiddo ond mae hyn wedi bod yn aflwyddiannus.

Golyga hyn fod y cyngor wedi cymryd y penderfyniad i weithredu fforffediad drwy ailddychweliad heddychol yn Neuadd Dolgerddon ac mae hefyd wedi gwneud hysbysiad ffurfiol y caiff y prydles ei fforffedu i'r prydleswr. 

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet dros Bowys Gysylltiedig: "Nid ar chwarae bach y dewisodd y cyngor y trywydd hwn o weithredu. Rydyn ni wedi ceisio gweithio â'r prydleswr i gyrraedd casgliad derbyniol ond nid yw hynny wedi bod yn bosibl.

"Mae hawl gan y prydleswr i herio'r hysbysiad am fforffediad a wnaed. Ni chaiff unrhyw gynigion am ddyfodol Neuadd Dolgerddon eu hystyried nes bod yr holl brosesau cyfreithiol wedi cael eu terfynu."