Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partïon Stryd a Dathliadau'r Coroni

Image of bunting

7 Chwefror 2023

Image of bunting
Mae Cyngor Sir Powys yn gwahodd cymunedau i wneud ceisiadau i gau ffyrdd, am ddim, er mwyn caniatáu iddynt gynnal partïon stryd i ddathlu coroni Ei Fawrhydi'r Brenin.

Mae'r dathliadau'n digwydd rhwng 6 - 8 Mai 2023, gyda phenwythnos gŵyl banc ychwanegol yn cynnig cyfle i gymunedau ddod at ei gilydd i ddathlu'r achlysur hanesyddol hwn.

Yn ystod y penwythnos hir, mae gwahoddiad i bobl drefnu eu partïon stryd eu hunain ac i gynnal 'Cinio Mawr y Coroni' i ddod â chymdogion a chymunedau at ei gilydd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl.

Meddai'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach: "Fel arfer byddai gwneud cais am barti stryd yn golygu talu ffi weinyddol, ond unwaith eto, mae'r cyngor wedi penderfynu hepgor y ffi i helpu cymunedau i ddathlu'r achlysur pwysig hwn.

"O gael paned gyda chymydog, i barti stryd, mae Cinio Mawr y Coroni'n gyfle i'n holl gymdogaethau ddathlu ac mae'n ffordd wych inni ddod i adnabod ein cymunedau ychydig yn well fel rhan o weithred o ddathlu a chyfeillgarwch ledled y genedl."

Am fwy o wybodaeth am gymryd rhan yn nathliadau'r Coroni, ewch i: www.edenprojectcommunities.com/cy/cinio-mawr-y-coroni

Er mwyn prosesu ceisiadau ar gyfer partïon stryd ac er mwyn sicrhau y caiff ffyrdd eu cau mewn da bryd, dylai unrhyw unigolyn neu grŵp sy'n bwriadu cynnal digwyddiad yn eu cymuned ar ffordd gyhoeddus ym Mhowys, hysbysu'r Cyngor erbyn 12 Mawrth 2023. 

Mae ffurflen gais a manylion pellach ar gael trwy gysylltu ag Adran Traffig y Cyngor drwy ebostio traffic@powys.gov.uk