Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dirwy i unigolyn brwdfrydig am DIY o'r Drenewydd am dipio anghyfreithlon

Image of fly tipped material on the A483 near Dolfor

7 Chwefror 2023

Image of fly tipped material on the A483 near Dolfor
Mae un o drigolion y Drenewydd wedi derbyn dirwy o £400 am dipio sbwriel yn anghyfreithlon ar gornel enwog ar yr A483 tu allan i bentref Dolfor. 

Cofnodwyd y drosedd gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC), oedd wedi gweld y deunyddiau a dipiwyd, oedd yn cynnwys deunyddiau adeiladu. Ar ôl i'r deunyddiau gael eu harchwilio gan Swyddogion Ymwybyddiaeth Gwastraff a Gorfodi Cyngor Sir, daethpwyd o hyd i dderbynneb yn y sbwriel, oedd yn gysylltiedig â masnachwr deunyddiau adeiladu lleol.

Roedd y busnes yn gallu darparu gwybodaeth oedd yn cysylltu'r deunyddiau ag unigolyn oedd yn byw yng Ngogledd Powys. Yn dilyn cyfweliad ar ôl ei rybuddio, cyfaddefodd y dyn fod y gwastraff dros ben o brosiect DIY ar ei gartref, ac yn sgil hynny, rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 iddo am dipio anghyfreithlon.  

Dywedodd y Cyng. Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach "Mae hyn yn ymddygiad dychrynllyd, lle mae unigolyn wedi mynd allan o'i ffordd i dipio sbwriel yn ein cefn gwlad fendigedig yn hytrach na mynd ag ef i un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y sir a chael gwared arno mewn ffordd briodol.

"Tynnwyd ein sylw at hyn gan un o'n cydweithwyr o Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC), ac roedd ein tîm gorfodi wedi gweithredu ar fyrder i lanhau'r gilfan a chymryd camau priodol yn erbyn yr unigolyn anghyfrifol dan sylw.

"Mae'r cyngor yn arfer polisi dim goddefgarwch mewn perthynas â thipio anghyfreithlon, a byddwn yn ymchwilio i bob digwyddiad yn drwyadl, gan gyhoeddi dirwyon lle bo'n briodol. Gwyddom fod y mwyafrif o drigolion Powys yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ac yn teimlo'n gryf am eu hamgylchedd lleol, ac y bydd y camau hyn a gymerir yn gyflym ac yn effeithlon yn tawelu eu meddyliau."

O dan Adran 33 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, trosedd yw tipio eich sbwriel yn y lle anghywir. Gall pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon gael dirwy sylweddol, ond gall eu herlyn hefyd arwain at gael cofnod troseddol.

Gellir cofnodi digwyddiadau tipio anghyfreithlon gyda'r Cyngor ar-lein: Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon