Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Galw ar fusnesau lleol i helpu ag adeilad newydd i ysgol

Image of a yellow construction hat and red building bricks

14 Chwefror 2023

Image of a yellow construction hat and red building bricks
Mae cwmni adeiladu a fydd yn adeiladu ysgol arbennig newydd yng Ngogledd Powys yn chwilio am fusnesau lleol i helpu gyda'r prosiect.

Bydd ISG Construction yn dylunio ac adeiladu ysgol newydd i Ysgol Neuadd Brynllywarch ar ran Cyngor Sir Powys.

Mae'r ysgol, a leolir yng Ngheri ger y Drenewydd, yn darparu addysg i ddisgyblion o 8 i 19 oed sydd ag amrywiaeth eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol.

Mae'r cwmni bellach yn chwilio am fusnesau adeiladu profiadol yn y sir sydd â'r gallu i helpu i gyflenwi'r ysgol flaenllaw bwrpasol hon sy'n gymuned ganolog.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae'r adeilad newydd i Ysgol Neuadd Brynllywarch yn gam hanfodol i sicrhau ein bod ni'n darparu addysg mewn amgylchedd diogel ac ysgogol i'n holl ddisgyblion. Bydd y prosiect hwn yn darparu cyfleusterau modern i'n disgyblion a'n staff addysgu ac yn eu helpu nhw i ddarparu profiad addysg boddhaus y gellir ei fwynhau gan bawb.

"Mae hwn hefyd yn gyfle grêt i fusnesau adeiladu lleol weithio gydag ISG Construction ar y prosiect cyffrous hwn, a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr bregus ym Mhowys."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau ISG, Kevin McElroy: "Mae moderneiddio a gwella'r ystâd addysg yn fuddsoddiad mewn sgiliau, dyhead a llewyrch rhanbarthol.

"Mae Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru'n trawsffurfio asedau a deilliannau addysg gymunedol, gan osod safon amgylcheddol uchel wrth ddarparu cyfleusterau sy'n garbon sero o'u gweithredu.

"Bydd adfywiad Ysgol Neuadd Brynllywarch yn creu etifeddiaeth gadarnhaol i fyfyrwyr ac mae'n cefnogi ymrwymiad cryf Cyngor Sir Powys i fuddsoddi mewn asedau sy'n darparu gwir werth i gymunedau."

Bydd yr ysgol, sy'n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn cynnwys:

  • Cefnogaeth arbenigol a darpariaeth i ddisgyblion ag ymddygiad heriol, anawsterau emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol
  • gwagleoedd dysgu priodol i ddarparu'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
  • offer arbenigol gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi deilliannau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn gwneud y mwyaf o'u potensial 
  • canolfan ddosbarth llawn cyfarpar, gyda gwagle ymneilltuo a chyfleusterau hylendid, ynghyd ag ardal ddysgu unigol awyr agored gan gynnwys uned fferm ac anifeiliaid.

Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn gallu cael mynediad at gyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi neu eich busnes helpu'r tîm i gyflenwi'r ysgol hon a'ch bod chi'n gallu arddangos sut yr ydych wedi cyfrannu at gynlluniau tebyg yn flaenorol, yna cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio grp-BrynllywarchSchool@groups.isgltd.com

Bydd ISG Construction hefyd yn cwrdd â busnesau sy'n mynegi diddordeb yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn ystod y prosiect.