Cynnal Cynhadledd Tasglu Tlodi Plant Gyntaf Erioed
14 Chwefror 2023
Cynhaliwyd y Gynhadledd Tasglu Tlodi Plant gan Gyngor Sir Powys yn Llandrindod yr wythnos ddiwethaf (Dydd Mercher, 8 Chwefror).
Yn ystod y gynhadledd, clywodd y sawl a oedd yn bresennol am waith y Tasglu Tlodi Plant, a ffurfiwyd fis Gorffennaf ddiwethaf.
Ers ei ffurfio, bu'r tasglu yn mapio'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu ar hyn o bryd i deuluoedd ledled y sir gan y cyngor a'i bartneriaid a mynd i'r afael ag unrhyw fylchau sy'n cael eu canfod.
Mae'r tasglu hefyd wedi cyd-gynhyrchu ei Gynllun Gweithredu Tasglu Tlodi Plant, a lansiwyd yn swyddogol yn y gynhadledd.
Yn ychwanegol, gwnaeth y sawl a oedd yn bresennol weld cyflwyniadau gan Sefydliad Bevan a Phlant yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Roeddwn wrth fy modd yn Cadeirio'r Gynhadledd gyntaf erioed ar gyfer Tasglu Tlodi Plant, ble y gwelwyd lansio ein cynllun gweithredu yn swyddogol.
"Mae'r cynllun gweithredu a gafodd ei ardystio yn y gynhadledd yn ail-gadarnhau ein hymrwymiad i weithio â chymunedau, partneriaid a chyd-weithwyr ledled y sir i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella cyfleoedd i blant a theuluoedd yma ym Mhowys.
"Mae'n ddarn o waith gwirioneddol bwysig sy'n adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd gan Dasglu Tlodi Plant ers ei ffurfio y llynedd.
"Rwy'n falch o'r ymdrechion yr ydym wedi eu gwneud mor belled ond mae yna fwy i'w wneud. Gyda'n gilydd gallwn fynd i'r afael â thlodi plant ac adeiladu Powys gryfach, decach, wyrddach."
Dywedodd y Cynghorydd Joy Jones, Eiriolwr yn Erbyn Tlodi yn y cyngor: "Roeddwn i mor falch o fod yn bresennol yn y Gynhadledd gyntaf erioed ar gyfer y Tasglu Tlodi Plant ac roedd yn grêt cael clywed sut mae partneriaid wedi dod ynghyd i edrych ar y gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael â thlodi plant yn ein cymunedau.
"Mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n gweithio ar y cyd ac yn edrych ar y ffyrdd gorau o fynd i'r afael â thlodi plant a gwneud gwir wahaniaeth i blant a theuluoedd ledled y sir."