Gweinidog yn agor Canolfan Integredig i Deuluoedd y Trallwng
17 Chwefror 2023
Mae Canolfan newydd i Deuluoedd, yn ardal Oldford yn Y Trallwng wedi cael ei hagor yn swyddogol ddoe gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Agorwyd drysau'r Ganolfan Integredig i Deuluoedd Y Trallwng ym mis Hydref y llynedd fel "siop un stop" gan ddarparu gwasanaethau a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae'r ganolfan yn darparu gweithgareddau fel grwpiau rhieni a phlant bach, tylino babanod, gwybodaeth a chyngor, rhaglenni Hyfforddiant Rhianta y Blynyddoedd Rhyfeddol, cyngor iechyd, cymorth a chwnsela i deuluoedd.
Mae'r gwaith i adnewyddu'r adeilad sydd yng nghanol dalgylch Dechrau'n Deg wedi ei gwblhau gyda £700,000 o gymorth cyllid cyfalaf Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn o allu mynychu lansiad y Ganolfan newydd i Deuluoedd sydd wedi'i hariannu trwy ein rhaglen Dechrau'n Deg. Drwy gynnig ystod eang iawn o weithgareddau, gan gynnwys gofal plant a chyngor, y cyfan mewn un lle mae'n ei gwneud hi'n haws i deuluoedd, plant a phobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor: "Mae'n wych gweld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol y mae'r cyfleuster newydd hwn yn ei gael ar y gymuned leol ac rwy'n edrych ymlaen at weld safleoedd tebyg yn agor ledled Cymru."
"Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog i'n canolfan newydd i deuluoedd heddiw. Roedd wedi rhoi'r cyfle i ni ddangos peth o'r gwaith partneriaeth a chymorth ardderchog sydd eisoes yn digwydd a hefyd i ddiolch iddi am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn.
"Mae'r ganolfan newydd yng nghanol y gymuned ac mae'n galluogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau i gyd mewn un lle. Mae'n darparu gofal plant yn ogystal â swyddfeydd a gofodau cymunedol ac mae'n dda gweld y gwasanaethau cymorth cynnar hyn i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddiwallu anghenion teuluoedd."
Mae tîm Dechrau'n Deg sy'n cynnwys Ymwelwyr Iechyd a gweithwyr proffesiynol Lleferydd ac Iaith wedi'u lleoli ar y safle. Mae staff Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Powys, ynghyd â chydweithwyr o asiantaethau fel Canolfan Argyfwng Teuluoedd Sir Drefaldwyn, hefyd yn rhannu'r swyddfeydd yn yr adeilad.
Dyma'r ail Ganolfan Integredig i Deuluoedd i agor yn y sir ac mae'n rhan o uchelgais ehangach i ddatblygu cyfres o safleoedd tebyg ar draws y sir.
Bellach, mae darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen ar gael i deuluoedd ar y safle. Gall teuluoedd lleol gael rhagor o wybodaeth ar dudalen Facebook
@WelshpoolIntegratedFamilyCentre neu ewch i https://cy.powys.gov.uk/cidt