Gweinidog Llywodraeth Cymru yn cwrdd â phlant yng nghylch chwarae pentref
21 Chwefror 2023
Bu Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld â nhw ddydd Gwener (17 Chwefror) i weld sut mae'r arian wedi cael ei wario.
Mae'r cylch chwarae, ger y Trallwng, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys, wedi derbyn cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer ystafell ddosbarth newydd dros dro - sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Gynradd Cegidfa - ac offer i'w ddefnyddio gan blant a staff.
Mae'n darparu 16 o lefydd i blant tair a phedair oed sy'n derbyn addysg gynnar ac am ofal plant i'r rheiny sydd â rhieni sy'n gymwys i gael cymorth Cynnig Gofal Plant Cymru.
Nod Cynnig Gofal Plant Cymru yw helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg drwy ddarparu hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Gallwch ddarganfod mwy am y Cynnig Gofal Plant Cymru a gallwch wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch
Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Gwnaeth fy ymweliad â Chylch Chwarae Cegidfa brynhawn Gwener wir rhoi gwên ar fy wyneb. Roedd yn wych cwrdd â rhai o'r plant a'u rhieni sy'n elwa o'n cynllun Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n dileu rhai o'r pryderon am gostau gofal plant ac sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd sy'n gweithio."
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn croesawu'n gynnes y cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Gylch Chwarae Cegidfa. Mae'r grant wedi helpu creu amgylchedd croesawgar a chefnogol i blant chwarae a dysgu'n llwyddiannus, a hynny drwy hyrwyddo'u hannibyniaeth."
LLUN: Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cwrdd â phlant a staff yng Nghylch Chwarae Cegidfa.