Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweinidog Llywodraeth Cymru yn cwrdd â phlant yng nghylch chwarae pentref

Julie Morgan, Deputy Minister for Social Services, meets children and staff at Guilsfield Playgroup

21 Chwefror 2023

Julie Morgan, Deputy Minister for Social Services, meets children and staff at Guilsfield Playgroup
Mae plant a staff Cylch Chwarae Cegidfa wedi bod yn dangos eu cartref newydd a'i holl adnoddau a dalwyd amdanynt gyda dros £200,000 mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Bu Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld â nhw ddydd Gwener (17 Chwefror) i weld sut mae'r arian wedi cael ei wario.

Mae'r cylch chwarae, ger y Trallwng, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys, wedi derbyn cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer ystafell ddosbarth newydd dros dro - sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Gynradd Cegidfa - ac offer i'w ddefnyddio gan blant a staff.

Mae'n darparu 16 o lefydd i blant tair a phedair oed sy'n derbyn addysg gynnar ac am ofal plant i'r rheiny sydd â rhieni sy'n gymwys i gael cymorth Cynnig Gofal Plant Cymru.

Nod Cynnig Gofal Plant Cymru yw helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg drwy ddarparu hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Gallwch ddarganfod mwy am y Cynnig Gofal Plant Cymru a gallwch wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch

Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Gwnaeth fy ymweliad â Chylch Chwarae Cegidfa brynhawn Gwener wir rhoi gwên ar fy wyneb. Roedd yn wych cwrdd â rhai o'r plant a'u rhieni sy'n elwa o'n cynllun Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n dileu rhai o'r pryderon am gostau gofal plant ac sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd sy'n gweithio."

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn croesawu'n gynnes y cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Gylch Chwarae Cegidfa.  Mae'r grant wedi helpu creu amgylchedd croesawgar a chefnogol i blant chwarae a dysgu'n llwyddiannus, a hynny drwy hyrwyddo'u hannibyniaeth."

LLUN: Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cwrdd â phlant a staff yng Nghylch Chwarae Cegidfa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu