Hwyl hanner tymor yn Y Trallwng ar thema natur
21 Chwefror 2023
Crëwyd yr ardal diolch i brosiect partneriaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, dan y teitl Camlesi, Cymunedau a Llesiant; nod y prosiect yw gwella cyfleoedd ar gyfer mynediad, hamdden a chysylltiadau â natur ar hyd coridor Camlas Trefaldwyn, sef lleoliad y warchodfa natur. Mae'r ardal chwarae awyr agored yn cynnwys deunyddiau naturiol - gan gynnwys coed o warchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn gerllaw, yng Nghoed Dolforwyn, lle mae gwaith adfer yn digwydd ar y coetir hynafol - ac offer a wnaethpwyd o bren i gydfynd â'r amgylchfyd gwyllt, sydd ar yr un pryd, yn hwyluso ymgysylltu â natur a'r awyr agored.
Gyda meinciau pren, cylch o stolion pren gwledig, 'ystafell synhwyraidd ar thema'r enfys' a chegin fwd, mae'r ardal awyr agored yn cynnig lle perffaith i blant a'u teuluoedd fwynhau chwarae dychmygus a chyffrous yn erbyn cefnlen ysbrydoledig y warchodfa natur. Yma gall meddyliau'r plant chwilota, creu a darganfod, wrth chwilio am chwilod, gwylio adar, casglu dail a gwylio bywyd gwyllt - heb sôn am fwynhau'r mwd, bod yn flêr a chael hwyl! Bydd y lle neilltuol hwn ar agor i'r cyhoedd sy'n ymweld â Llyn Coed y Dinas, a chynhelir digwyddiadau sy'n addas i'r teulu cyfan, ymweliadau addysgol ar gyfer ysgolion lleol, a sesiynau estyn allan ar gyfer pobl ifanc a gyflwynir gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yma hefyd.
"Gwyddom taw trwy chwarae y mae plant yn dysgu orau, a does dim lle gwell i bobl ifanc ddysgu am y byd naturiol na thu allan yn yr awyr agored," meddai Ceri Jones, Pennaeth Tirweddau Byw Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn. "Yn ogystal, dengys ymchwil fod cael cysylltiadau â natur yn arwain at lai o straen, gallu canolbwyntio'n well a chysgu'n well - hefyd mae'n arwain at agweddau mwy cynaliadwy tuag at yr amgylchedd."
Mae bywyd gwyllt o bob math yn ymgartrefu yn Llyn Coed y Dinas, a gallwch weld rhywbeth yno beth bynnag fo'r tymor. Bydd yr ardal Chwarae Natur yn gweddu i'r cyfleusterau presennol ar y warchodfa, sy'n cynnwys cuddfan adar fawr gyda seddi sy'n edrych dros y llyn, man picnic, a maes parcio bach.
Mae'r ardal chwarae hon ymhlith nifer o welliannau seilwaith a bioamrywiaeth sy'n cael eu cyflawni ar hyd coridor Camlesi Trefaldwyn a Sir Fynwy ac Aberhonddu, ym Mhowys, fel rhan o brosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant, fydd yn rhedeg hyd at fis Mai 2023. Prosiect partneriaeth rhwng Tîm Mynediad a Hamdden Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys, sy'n arwain y prosiect, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw hwn; mae'n cynnwys gwelliannau i lwybrau halio, gwelliannau i warchodfeydd natur, arwyddion newydd i ymwelwyr, cyfres o ffilmiau hyrwyddo (o'r awyr) ar y camlesi, teithiau gerdded dan arweiniad ar thema bywyd gwyllt, ac ap gwylio bywyd gwyllt dwyieithog ar gyfer ffonau clyfar, 'Canal Safari'.
Mae'r prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant wedi derbyn cyllid trwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a gyllidir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru.