Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Maethu preifat

Private fostering

22 Chwefror 2023

Private fostering
Ydych chi'n gofalu am blentyn rhywun arall? Gallai hynny fod yn drefniant maethu preifat ac mae angen i chi roi gwybod i ni fel ein bod ni'n gallu rhoi cymorth i chi.

Mae maethu preifat yn digwydd pan fydd plentyn iau na 16 (neu iau na 18 os yw'n anabl) yn derbyn gofal yng nghartref rhywun nad yw'n berthynas na warcheidwad iddo, am fwy na 28 dydd.

Caiff y trefniant ei wneud rhwng rhieni genedigol y plentyn a'r gofalwr arfaethedig, ac yn aml mae'n digwydd fel ymateb cadarnhaol i amgylchiadau anodd teulu; ond rhaid i lesiant y plentyn fod yn flaenoriaeth bob tro. Felly rhaid i ni fod yn fodlon fod llesiant y plentyn, sydd, neu a fydd, yn cael ei faethu'n breifat yn cael ei ddiogelu a'i hyrwyddo'n ddigonol.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Os ydych chi'n ofalwr maeth preifat, yna rhowch wybod i ni. Nid yw hyn yn ymwneud â 'busnesu' amdanoch chi. Yn hytrach, mae'n ymwneud â sicrhau bod y cymorth cywir yn ei le, a bod y plentyn yn derbyn gofal da a bod y gofalwyr yn gallu cael mynediad at unrhyw adnoddau a allai fod eu hangen arnynt."

Os ydych chi'n ymwybodol fod trefniant o'r fath yn bodoli, gofynnwn i chi gysylltu fel ein bod ni'n gallu darparu'r help a'r cymorth i'r teuluoedd hynny.

Cysylltwch â Gwasanaethau Plant Drws Ffrynt drwy, 

E-bost - csfrontdoor@powys.gov.uk

Ffôn 01597 827 666 (oriau swyddfa) 0345 054 4847 (ar ôl oriau)

Am ragor o wybodaeth am faethu preifat, ewch i https://cy.powys.gov.uk/maethupreifat