Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datgelu cynlluniau ar gyfer ysgol newydd

Image of Brynllywarch Hall School

22 Chwefror 2023

Image of Brynllywarch Hall School
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod cynlluniau cyffrous ar gyfer ysgol newydd fydd yn trawsnewid addysg ar gyfer dysgwyr bregus ym Mhowys wedi cael eu datgelu.

Bydd Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd gwerth £9.1 miliwn ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch fel rhan o'i rhaglen Trawsnewid Addysg. Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yng Ngheri ger y Drenewydd, yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 19 oed, sydd ag ystod eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol cymhleth.

Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer y datblygiad arfaethedig wedi dechrau, sy'n caniatáu i bartïon sydd â diddordeb roi sylwadau ar y cynlluniau cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno.

Bydd yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn dod i ben ddydd Mawrth, 14 Mawrth, 2023.

Bydd y cyngor a'i bartner adeiladu, ISG Construction, yn arddangos y cynlluniau cyffrous mewn dau ddigwyddiad galw heibio a fydd yn cael eu cynnal yn yr ysgol ar y dyddiau canlynol:

  • Dydd Mawrth 28 Chwefror rhwng 3.30pm a 7pm
  • Dydd Mawrth 7 Mawrth rhwng 3.30pm a 7pm

Bydd y digwyddiadau galw heibio ar agor i gymuned yr ysgol gyfan yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch yn gam hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu addysg mewn amgylchedd diogel ac ysgogol i'n holl ddisgyblion. Bydd y project hwn yn darparu cyfleusterau modern i'n disgyblion a'n staff addysgu ac yn eu helpu i ddarparu profiadau addysg pleserus a boddhaus i bawb.

"Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn gyfle gwych i bawb yng nghymuned yr ysgol ac aelodau'r cyhoedd i weld y cynlluniau cyffrous hyn, a fydd yn trawsnewid addysg ar gyfer dysgwyr bregus ym Mhowys."

I weld y dogfennau ymgynghori cyn-ymgeisio ar-lein, ewch i https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/ sydd hefyd yn rhoi manylion am sut y gallwch gyflwyno sylwadau ar y cynlluniau arfaethedig.