Datgelu cynlluniau ar gyfer ysgol newydd
22 Chwefror 2023
Bydd Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd gwerth £9.1 miliwn ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch fel rhan o'i rhaglen Trawsnewid Addysg. Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yng Ngheri ger y Drenewydd, yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 19 oed, sydd ag ystod eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol cymhleth.
Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer y datblygiad arfaethedig wedi dechrau, sy'n caniatáu i bartïon sydd â diddordeb roi sylwadau ar y cynlluniau cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno.
Bydd yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn dod i ben ddydd Mawrth, 14 Mawrth, 2023.
Bydd y cyngor a'i bartner adeiladu, ISG Construction, yn arddangos y cynlluniau cyffrous mewn dau ddigwyddiad galw heibio a fydd yn cael eu cynnal yn yr ysgol ar y dyddiau canlynol:
- Dydd Mawrth 28 Chwefror rhwng 3.30pm a 7pm
- Dydd Mawrth 7 Mawrth rhwng 3.30pm a 7pm
Bydd y digwyddiadau galw heibio ar agor i gymuned yr ysgol gyfan yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch yn gam hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu addysg mewn amgylchedd diogel ac ysgogol i'n holl ddisgyblion. Bydd y project hwn yn darparu cyfleusterau modern i'n disgyblion a'n staff addysgu ac yn eu helpu i ddarparu profiadau addysg pleserus a boddhaus i bawb.
"Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn gyfle gwych i bawb yng nghymuned yr ysgol ac aelodau'r cyhoedd i weld y cynlluniau cyffrous hyn, a fydd yn trawsnewid addysg ar gyfer dysgwyr bregus ym Mhowys."
I weld y dogfennau ymgynghori cyn-ymgeisio ar-lein, ewch i https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/ sydd hefyd yn rhoi manylion am sut y gallwch gyflwyno sylwadau ar y cynlluniau arfaethedig.