Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa Sampleri a Brodwaith

Adam and Eve Sampler

24 Chwefror 2023

Adam and Eve Sampler
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod amgueddfa yng nghanolbarth Powys yn cynnal arddangosfa am ddim ar hyn o bryd i ddathlu'r traddodiad poblogaidd o greu sampleri a brodwaith.

Mae Amgueddfa Maesyfed wedi creu arddangosfa yn seiliedig ar set o weithiau a wnaed gan dair cenhedlaeth o'r un teulu lleol, y Vaughan-Whitalls, ac wedi'u haddurno â detholiad o decstilau lliwgar a gweithgar.  Roedd y darnau yng nghasgliadau wrth gefn yr amgueddfa.

Arddangosfa dros dro yw'r arddangosfa o Sampleri a Brodwaith a bydd yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Sir Faesyfed tan ddydd Sadwrn 15 Ebrill. Mae'r amgueddfa ar agor rhwng 10am a 4pm ddydd Mercher i ddydd Gwener, a 10am - 1pm ar ddydd Sadwrn. Ym mis Ebrill, bydd yr amgueddfa ar agor rhwng 10am - 4pm ar ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'n wych cael arddangosfeydd fel hyn yn ein hamgueddfa yn Llandrindod, sy'n dangos hanes o waith gan deulu lleol.

"Mae croeso mawr i drigolion Powys ac ymwelwyr â'r sir i gael golwg a gweld beth sydd gan yr arddangosfa i'w gynnig."

Am ragor o wybodaeth, ewch i, Amgueddfa Maesyfed, Stryd y Deml, Llandrindod, LD1 5DL neu cysylltwch â

E-bost: radmus@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 824513

Gallwch hefyd fynd i dudalen Facebook Amgueddfa Sir Faesyfed: Amgueddfa Sir Faesyfed

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu