Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol G.G. Cradoc ac Adolygiad Barnwrol

Image of a primary school classroom

28 Chwefror 2023

Image of a primary school classroom
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y bu her gyfreithiol ynghylch penderfyniad i gau ysgol fach, yn aflwyddiannus.

Mae'r Uchel Lys wedi ystyried cais am Adolygiad Barnwrol er mwyn herio'r penderfyniad i gau Ysgol G.G. Cradoc a wnaethpwyd ar ddydd Gwener 11 Mawrth, 2022.

Gwrthodwyd y caniatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol gan Mr Ustus Lane.

Mae'r penderfyniad i gau Ysgol G.G. Cradog yn rhan o gynlluniau Trawsnewid Addysg y Cyngor ar gyfer dalgylch Aberhonddu, fyddai'n golygu creu ysgol gynradd newydd trwy gyfuno Ysgol Cradog ac Ysgol Babanod Mount Street ac Ysgol Iau Mount Street.

Adeg y penderfyniad, y dyddiad targed o ran sefydlu'r ysgol gynradd newydd, fyddai'n rhedeg ar safleoedd y tair ysgol bresennol, oedd Medi 2023. Fodd bynnag, cytunwyd i ohirio hyn am 12 mis fis Rhagfyr diwethaf, oherwydd nid oedd y llysoedd wedi ystyried y cais ar gyfer adolygiad barnwrol.

Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: Er y bydd hyn yn newyddion siomedig ar gyfer cymuned ysgol Cradoc, dengys y dyfarniad fod y Cyngor wedi dilyn y gweithdrefnau cywir oedd yn cydfynd â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, pan wnaethpwyd y penderfyniad.

"Nawr bydd y cyngor yn dechrau'r gwaith o weithredu'r penderfyniad i sicrhau fod yr ysgol newydd yn agor ar safleoedd presennol y dair ysgol o fis Medi 2024."