Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ceisiadau yn agor ar gyfer derbyn plant Y Blynyddoedd Cynnar

Image of an adult and two children playing with blocks

1 Mawrth 2023

Image of an adult and two children playing with blocks
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod ceisiadau bellach ar agor ar gyfer plant a fydd yn dechrau addysg cyn-ysgol yn 2024.

Gall rhieni neu ofalwyr plant a anwyd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 wneud cais am le mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar yn barod i ddechrau yn 2024.

Rhaid cwblhau a chyflwyno ceisiadau erbyn dydd Gwener 31 Mawrth 2023.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r Cyngor Sir i sicrhau y caiff pob plentyn ym Mhowys fynediad at addysg y blynyddoedd cynnar rhan amser am ddim, o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn deirblwydd.

Gall pob plentyn cymwys dderbyn mwyafswm o ddeng awr yr wythnos o addysg y blynyddoedd cynnar a ariennir os ydynt yn mynychu lleoliad addysg cyn-ysgol cymeradwy a ariennir.

Ni fydd plant sy'n gymwys ar gyfer addysg rhan amser am ddim ond yn derbyn lleoedd a ariennir os ydynt yn mynychu lleoliad addysg cyn-ysgol a ariennir cymeradwy.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i lenwi'r cais hwn cyn gynted ag y gallant er mwyn sicrhau bod gan eu plentyn y cyfle gorau am le yn y lleoliad cyn oed ysgol / blynyddoedd cynnar o'u dewis y flwyddyn nesaf.

"Os na fydd y cais yn cael ei anfon mewn da bryd, gallai peryglu lle eu plentyn yn y lleoliad o'u dewis os yw'n un poblogaidd."

Bydd angen i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael trafferth llenwi neu gyflwyno'r cais mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Derbyn ar 01597 826449 neu e-bostio preschooladmissions@powys.gov.uk