Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghori iaith Ysgol y Cribarth

Image of Ysgol y Cribarth

1 Mawrth 2023

Image of Ysgol y Cribarth
Gallai addysg cyfrwng Cymraeg gael ei gyflwyno mewn ysgol gynradd yn ne Powys os cymeradwyir argymhelliad i'r Cabinet, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu symud Ysgol y Cribarth yn Aber-craf ar hyd y continwwm iaith drwy sefydlu ffrwd Gymraeg yn yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn ysgol cyfrwng Saesneg sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed.

Ers mis Medi 2021, mae Ysgol y Cribarth wedi bod yn cynnal dosbarth Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg ar sail peilot fel rhan o gynllun sydd wedi ei gefnogi gan y cyngor.

Byddai'r newid arfaethedig yn golygu cyflwyno ffrwd Gymraeg yn Ysgol y Cribarth o fis Medi 2023, yn gweithredu ochr yn ochr â ffrwd cyfrwng Saesneg yr ysgol.

Bydd y cynnig yn helpu'r cyngor i gyflawni un o'r nodau yn ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg, sef gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol. Cafodd y strategaeth ei diweddaru ym mis Gorffennaf 2022.

Cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad saith wythnos rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023 a bydd canfyddiadau'r adroddiad ymgynghori yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth, 7 Mawrth.

Bydd gofyn i'r Cabinet hefyd barhau â'r broses i symud Ysgol y Cribarth ar hyd y continwwm iaith drwy sefydlu ffrwd Gymraeg yn yr ysgol.

Os ceir sêl bendith, bydd y cyngor yn cyhoeddi rhybudd statudol sy'n cynnig y newid yn ffurfiol. Byddai gofyn wedyn i ystyried adroddiad arall i ddod â'r broses i ben.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, yr argymhelliad y byddaf yn ei gyflwyno i'r Cabinet yw parhau gyda'r cynnig drwy gyhoeddi'r rhybudd statudol gan gynnig y newid yn ffurfiol.

"Byddai'r newid hwn yn sicrhau y byddai holl ddisgyblion yr ardal yn cael y cyfle i ddewis y ddarpariaeth hon, a fyddai'n rhoi cyfle iddynt ddod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac felly'n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Byddai hefyd yn cefnogi nodau a dyheadau'r cyngor fel yr amlinellir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) ar gyfer 2022-32 a'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys."

I gael mwy o wybodaeth am addysg Gymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith.