Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwyddiant erlyniad am iechyd anifeiliaid

Image of some sheep

3 Mawrth 2023

Image of some sheep
Mae dyn o Bowys wedi gorfod talu dros £2,300 ar ôl ffugio nodi/tagio defaid a darparu gwybodaeth ffug ar ddogfennaeth adrodd am symudiadau defaid a hynny ar ôl iddo gael ei erlyn gan y cyngor sir. 

Cafodd Daniel Price o Oakfield, Dolau ei erlyn gan Dîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys am y troseddau.  

Plediodd Price, yn euog i bedair trosedd o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gofyn rhoi ystyriaeth i 17 cyhuddiad arall. Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llandrindod ar 1 Mawrth 2023 a chael dirwy o £1,200 am y troseddau. Gorchmynnwyd e i dalu costau o £1,000 a thâl ychwanegol y dioddefwr, sef £120.

Clywodd y llys fod Price, yn ystod mis Chwefror 2020, wedi darparu gwybodaeth ffug ar ddogfennaeth adrodd am symudiadau defaid ac ym mis Medi 2020 a mis Rhagfyr 2020, ei fod wedi ffugio nodi/tagio cyfanswm o 39 o ddefaid.

Methodd Price hefyd â hysbysu EID Cymru, sef system electronig i gofnodi symudiadau da byw yng Nghymru, am symudiad dwy ddafad, clywodd y llys.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel: Mae'r gyfraith sy'n berthnasol i nodi/tagio ac adrodd am symudiadau defaid a geifr mewn lle i'w gwneud hi'n haws olrhain anifeiliaid a helpu i atal, neu leihau'r gost, o gychwyn clefyd difrifol, fel Clwy'r Traed a'r Genau, ac i ddiogelu cadwyn fwyd pobl.

"Os na fydd ffermwyr yn dilyn y rheoliadau, yna bydd ein swyddogion yn archwilio a gweithredu yn y modd priodol."

Dywedodd Gavin Jones, Rheolwr Tîm Iechyd Anifeiliaid: "Mae ein swyddogion yn gweithredu yn y modd priodol mewn amgylchiadau fel hyn. Fel arfer does dim angen erlyn wrth ddelio â thorcyfraith. Fodd bynnag, os ddown ni ar draws achosion tebyg i hwn, mi fyddwn ni'n erlyn."