Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i lefydd ar draws y DU.
Mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025, gyda phob ardal o'r DU yn derbyn dyraniad.
Mae'r wybodaeth wedi tarddu o'n strategaethau economaidd lleol ac asesiadau Lles, dogfennau ac astudiaethau rhanbarthol, gwersi a ddysgwyd o rowndiau ariannu blaenorol a thrwy ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid.
Bydd yr UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i ffyniant bröydd ymhob rhan o'r DU trwy gyflawni pob un o amcanion y Cynllun Ffyniant Bro:
Gwella cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi
Cynyddu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwanaf
Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi'u colli
Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd hynny heb asiantaeth leol
Drwy'r Rhaglen Lluosi, cynyddu lefelau rhifedd ymarferol ymhlith oedolion yn y boblogaeth (rhaglen rhifedd i oedolion yw Lluosi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.)
Fel y nodir yng nghanllawiau yr SPF, bydd Ceredigion a Phowys yn defnyddio eu dyraniadau SPF drwy fuddsoddi ar draws y meysydd buddsoddi sy'n flaenoriaeth iddynt ac a restrir isod;
Cyhoeddwyd y cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau ar 9 Mawrth, 2023. Gweler "Galwadau Agored" i gael manylion a dyddiadau gwneud cais.
Noder bod Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys yn derbyn dyraniadau unigol ar gyfer yr UKSPF. Er mwyn trafod ymhellach, cysylltwch â'r Awdurdod Lleol perthnasol lle rydych am ddarparu gweithgarwch. Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais rhanbarthol, cysylltwch â'r ddau awdurdod.