Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Levelling up logo CYM
UK Government Levelling Up logo
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i lefydd ar draws y DU.

Mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025, gyda phob ardal o'r DU yn derbyn dyraniad.

Mae dogfen Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol y Canolbarth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 (PDF) [3MB] a gynhyrchwyd gan Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys ar hyd ôl troed Tyfu Canolbarth Cymru yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi dyraniad UKSPF o £42.4m yng Nghanolbarth Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2025.

Mae'r wybodaeth wedi tarddu o'n strategaethau economaidd lleol ac asesiadau Lles, dogfennau ac astudiaethau rhanbarthol, gwersi a ddysgwyd o rowndiau ariannu blaenorol a thrwy ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid.

Bydd yr UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i ffyniant bröydd ymhob rhan o'r DU trwy gyflawni pob un o amcanion y Cynllun Ffyniant Bro:

  • Gwella cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi
  • Cynyddu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar eu gwanaf
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi'u colli
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd hynny heb asiantaeth leol
  • Drwy'r Rhaglen Lluosi, cynyddu lefelau rhifedd ymarferol ymhlith oedolion yn y boblogaeth (rhaglen rhifedd i oedolion yw Lluosi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.)

Fel y nodir yng nghanllawiau yr SPF, bydd Ceredigion a Phowys yn defnyddio eu dyraniadau SPF drwy fuddsoddi ar draws y meysydd buddsoddi sy'n flaenoriaeth iddynt ac a restrir isod;

(a) Cymunedau a Lle

(b) Cefnogi Busnesau Lleol

(c) Pobl a Sgiliau

(d) Lluosi

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 (PDF) [2MB]

 Cyhoeddwyd y cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau ar 9 Mawrth, 2023.  Gweler "Galwadau Agored" i gael manylion a dyddiadau gwneud cais.

Noder bod Awdurdodau Lleol Ceredigion a Phowys yn derbyn dyraniadau unigol ar gyfer yr UKSPF.  Er mwyn trafod ymhellach, cysylltwch â'r Awdurdod Lleol perthnasol lle rydych am ddarparu gweithgarwch.  Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais rhanbarthol, cysylltwch â'r ddau awdurdod.

I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch:

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar wefan Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru