Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau Canolbarth Cymru - dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y dyfodol i ddiwallu nodau eich busnes

Image of Mid Wales Regional Skills Partnership logo

6 Mawrth 2023

Image of Mid Wales Regional Skills Partnership logo
Bydd Tyfu - Diffinio - Cyflawni Gyda'n Gilydd, sef digwyddiad ymgysylltu a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, yn cael ei gynnal ar fore 23 Mawrth er mwyn rhoi cyfle i chi, busnesau Canolbarth Cymru, ddod at eich gilydd a dweud beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol i gyflawni nodau eich busnes.

Dewch i ddeall pa gymorth ac arweiniad sydd ar gael i chi mewn perthynas â chaffael, sgiliau recriwtio, a hyfforddiant. Os ydych chi'n fusnes yng Ngheredigion neu Bowys sy'n meddwl am anghenion eich gweithlu yn y dyfodol, dewch i ymuno â ni am y bore yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod.

Dyma gyfle i chi gael eich ysbrydoli gan fusnesau eraill sydd wedi wynebu heriau tebyg, rhwydweithio, ac archwilio cyfleoedd yn ymwneud â sgiliau, hyfforddiant neu brentisiaethau i helpu eich busnes nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, ar y cyd: "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ychydig iawn o gyfleoedd sydd wedi bod i fusnesau yn y Canolbarth ddod at ei gilydd. Os ydych chi'n fusnes newydd neu'n fusnes sefydledig o unrhyw faint, ac rydych chi'n ansicr o'r opsiynau sydd ar gael i chi o ran recriwtio neu uwchsgilio staff, yna mae'r digwyddiad hwn yn ddelfrydol i chi. Bydd swyddogion o Bowys a Cheredigion wrth law i rannu'r cymorth a'r atebion sydd ar gael, er enghraifft tendro a chaffael. Rydym yn croesawu'r cyfle hwn i ddod â busnesau at ei gilydd i helpu i baratoi Canolbarth Cymru ar gyfer y dyfodol."

Ymhlith y pynciau allweddol a fydd yn cael eu harchwilio mae Sgiliau Gwyrdd a Sero Net; edrych ar ffyrdd o baratoi ac addasu eich sefydliad a'ch cadwyni cyflenwi ar gyfer yr economi werdd, nodi'r sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar eich gweithlu i lwyddo a sut y gellir cyflawni'r rhain.

Emma Thomas yw Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru. Dywedodd: "Mae'n bleser gennym wahodd Cyflogwyr Busnes Canolbarth Cymru i ymuno â ni yn y digwyddiad 'Tyfu - Diffinio - Cyflawni gyda'n Gilydd.'Helpwch ni i ddeall eich rhwystrau rhag sgiliau a recriwtio, gan alluogi Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i fod yn llais i chi pan a ble mae'n bwysig. Cewch gyfle i ymuno â thrafodaeth bord gron gyda chyd-gyflogwyr ac arbenigwyr ym maes cyflogaeth, sgiliau, a hyfforddiant. Byddant wrth law i wrando ar eich anghenion, a'r heriau y mae eich busnesau'n eu hwynebu ar hyn o bryd, ac i gynnig cyngor ac arweiniad. Mae hwn yn gyfle pwysig i beidio â chael ei golli."

Bydd cinio rhwydweithio yn dilyn y digwyddiad.

Er mwyn dod i'r digwyddiad, mae'n rhaid i fusnesau gofrestru eu diddordeb ar y ddolen ganlynol: https://bit.ly/TyfuDiffinioCyflawniGydanGilydd