Cabinet yn cymeradwyo cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch
10 Mawrth 2023
Mabwysiadwyd Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, gan y Cabinet yr wythnos hon (Dydd Mawrth, 7 Mawrth) a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys.
Bydd y cynllun yn cefnogi busnesau Powys wrth iddynt adfer yn sgil effeithiau'r pandemig a'r heriau economaidd parhaus gan gynnwys cyfraddau chwyddiant uchel.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnig i fusnesau cymwys a feddiannir gael disgownt o 75% o'r bil ardrethi busnes ar gyfer eiddo. Bydd y cynllun yn gymwys i bob talwr ardrethi cymwys gyda chap rhyddhad ar gyfer eich eiddo busnes hyd at £110,000.
Bydd y cyngor yn derbyn arian o hyd at £4.9m ar ffurf grant Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun. Amcangyfrifir y bydd hawl gan 900 o fusnesau ym Mhowys hawlio'r 75% rhyddhad ardrethi.
Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft, siopau, tafarndai a thai bwyta, gymiau, lleoliadau perfformio a gwestai.
Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi ar gael am y cyfnod 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024. Rhaid i fusnesau sy'n diwallu'r meini prawf cymhwyso wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'n gyfnod anodd iawn i'r busnesau hynny yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n wynebu amseroedd economaidd heriol ar yr un pryd ag y maen nhw'n ceisio adfer yn sgil effeithiau'r pandemig.
"Rwyf wrth fy modd fod y Cabinet wedi mabwysiadu'r cynllun rhyddhad ardrethi hwn a fydd yn helpu i gefnogi busnesau Powys yn y sectorau hyn. Buaswn yn annog y busnesau hynny i wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn pan fydd yn agor y mis nesaf."
Gallwch gael gwybodaeth bellach am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a sut i ymgeisio drwy chwilio am Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023 / 2024