Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw Cysylltu Bywydau?

Mae Cysylltu Bywydau yn wasanaeth lle mae pobl sydd angen rhywfaint o gefnogaeth, yn byw gyda neu'n ymweld â phobl sydd wedi penderfynu rhannu eu cartrefi, eu cymuned a'u bywyd teuluol.  Gelwir y rhain yn Ofalwyr Cysylltu Bywydau. 

Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn cael eu recriwtio, eu hasesu a'u hyfforddi gan Cysylltu Bywydau Powys.

Mae pobl yn aros gyda Gofalwyr Cysylltu Bywydau am amser hir neu am gyfnod byr yn unig.  Mae pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn dewis yr hyn maent yn ei wneud, ble maent yn byw a faint o amser maent yn ei dreulio gyda'r Gofalwr Cysylltu Bywydau. 

Rydym am i bobl fod mor annibynnol â phosibl.  Y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth sy'n penderfynu pa ganlyniadau maent yn eu dymuno mewn bywyd.   Os bydd rhywun yn teimlo bod rhywbeth yn anodd, gall Gofalwyr Cysylltu Bywydau weithio gyda nhw nes eu bod yn teimlo'n hapus i'w wneud ar eu pen eu hun.

Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hunangyflogedig ac yn cael eu talu pan fydd y person yn aros gyda nhw.

Dysgwch fwy drwy gysylltu â thîm Cysylltu Bywydau Powys

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau