Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cefnogaeth gan Cysylltu Bywydau

Gweithio gyda chi

Rydym yn gweithio gyda chi a gyda'ch Gofalwr Cysylltu Bywydau newydd i wneud y pethau rydych eisiau eu gwneud a'u dysgu.

Byddwn yn cwrdd â chi bob tri mis i weld a oes unrhyw newidiadau yn eich canlyniadau neu'r cymorth sydd ei angen arnoch. Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym beth yw eich barn am eich gwasanaeth.

Byddwn yn adolygu eich trefniant gyda'r Gofalwr Cysylltu Bywydau, eich Gweithiwr Cymdeithasol ac unrhyw gynrychiolydd yr hoffech ei gael.  Byddwn yn gwneud hyn bob blwyddyn, neu'n gynt os bydd rhywbeth wedi newid, neu os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny.

Sicrhau eich bod yn ddiogel

Gwasanaeth cofrestredig

  • Mae'r holl Ofalwyr Cysylltu Bywydau wedi'u hyfforddi fel eu bod yn gwybod sut i'ch cefnogi.
  • Mae'r holl Ofalwyr Cysylltu Bywydau yn cael eu gwirio a'u cymeradwyo.
  • Os ydych yn poeni am unrhyw beth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch sgwrsio â ni yn y tîm Cysylltu Bywydau.
  • Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus tra byddwch yn aros gyda'ch Gofalwr Cysylltu Bywydau.
  • Mae Cysylltu Bywydau Powys yn wasanaeth cofrestredig sy'n golygu ein bod yn cael ein gwirio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gwirio ein bod yn gwneud gwaith da.  Maent yn ysgrifennu adroddiad i ddweud sut rydym yn gwneud, a gallwch ddarllen yr adroddiad ar eu gwefan.
  • Mae Cysylltu Bywydau Powys yn aelod o Shared Lives Plus.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau