Tâl a Budd-daliadau (Ofalwr Cysylltu Bywydau)
Beth fyddwch yn ei gael
Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hunangyflogedig a thelir lwfans iddynt pan fydd yr unigolyn yn aros gyda nhw.
Fel Gofalwr Cysylltu Bywydau Powys, byddwch yn cael eich talu rhwng £283.25 a £463.50 bob wythnos, gan adlewyrchu anghenion cymorth yr unigolyn.
Mae cymorth parhaus ar gael gan Shared Lives Plus, i'ch cynghori ynghylch a fyddai hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallech eu hawlio eisoes.
Buddion ychwanegol
Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth am ddim i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus fel Gofalwr Cysylltu Bywydau.
Fel Gofalwr Cysylltu Bywydau byddwch yn derbyn:
- £10,000 y flwyddyn mewn rhyddhad treth fel gofalwr hunangyflogedig
- 28 niwrnod o seibiant â thâl o'ch rôl gofalu
- Aelodaeth am ddim i Shared Lives Plus sy'n cynnwys eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, cymorth gofalwyr a mynediad i'r rhwydwaith cenedlaethol o dros 11,000 o ofalwyr.
- Cyfarfodydd Gofalwyr Cysylltu Bywydau rheolaidd
Ydy dod yn ofalwr yn iawn i mi?
Amdanom ni
Mae Cysylltu Bywydau yn ymwneud â chefnogi rhywun i fod mor annibynnol â phosibl ac i ddod o hyd i'w ffordd ei hun yn y byd.
Mae llawer o bobl yn mwynhau bod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau oherwydd ei fod yn golygu y gallwch fod yn hyblyg gyda'ch trefn arferol.
Fel rhan o'r broses asesu, byddwn yn edrych ar eich ffordd o fyw, eich ymrwymiadau a'ch trefn arferol ac yn eich helpu i'ch cyflwyno i rywun sy'n cyd-fynd yn dda â chi.
"Rwy'n unigolyn llawer mwy cyflawn ar ôl bod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau — rwy'n gweld y darlun ehangach o ran helpu eraill a gwerthfawrogi eu barn a'u nodau mewn bywyd. Rydym yn byw gyda'n gilydd fel rhan o'n bywydau o ddydd i ddydd, yn dysgu yn niogelwch ein cartref ac yn bennaf oll mae gennym ddiddordeb yn eu bywydau a sut maent yn dod yn eu blaen."
"Y peth gorau am yr hyn rwy'n ei wneud yw ei gweld hi'n tyfu mewn hyder a gallu. Mae hi'n unigolyn gofalgar, pan fydd hi'n ysgrifennu nodyn diolch i mi neu'n cael cerdyn i mi ac mae hi'n ei roi i mi gyda gwên fawr ar ei hwyneb. Mae'r rhain yn fy atgoffa'n arbennig ei bod hi'n dod â llawer o lawenydd i'm bywyd"
Contacts
Feedback about a page here