Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tâl a Budd-daliadau (Ofalwr Cysylltu Bywydau)

Beth fyddwch yn ei gael

Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hunangyflogedig a thelir lwfans iddynt pan fydd yr unigolyn yn aros gyda nhw.

Fel Gofalwr Cysylltu Bywydau Powys, byddwch yn cael eich talu rhwng £283.25 a £463.50 bob wythnos, gan adlewyrchu anghenion cymorth yr unigolyn. 

Mae cymorth parhaus ar gael gan Shared Lives Plus, i'ch cynghori ynghylch a fyddai hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gallech eu hawlio eisoes.

Buddion ychwanegol

Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth am ddim i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus fel Gofalwr Cysylltu Bywydau.

Fel Gofalwr Cysylltu Bywydau byddwch yn derbyn:

  • £10,000 y flwyddyn mewn rhyddhad treth fel gofalwr hunangyflogedig
  • 28 niwrnod o seibiant â thâl o'ch rôl gofalu
  • Aelodaeth am ddim i Shared Lives Plus sy'n cynnwys eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, cymorth gofalwyr a mynediad i'r rhwydwaith cenedlaethol o dros 11,000 o ofalwyr.
  • Cyfarfodydd Gofalwyr Cysylltu Bywydau rheolaidd

Ydy dod yn ofalwr yn iawn i mi?

Amdanom ni

Mae Cysylltu Bywydau yn ymwneud â chefnogi rhywun i fod mor annibynnol â phosibl ac i ddod o hyd i'w ffordd ei hun yn y byd. 

Mae llawer o bobl yn mwynhau bod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau oherwydd ei fod yn golygu y gallwch fod yn hyblyg gyda'ch trefn arferol.

Fel rhan o'r broses asesu, byddwn yn edrych ar eich ffordd o fyw, eich ymrwymiadau a'ch trefn arferol ac yn eich helpu i'ch cyflwyno i rywun sy'n cyd-fynd yn dda â chi. 

"Rwy'n unigolyn llawer mwy cyflawn ar ôl bod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau — rwy'n gweld y darlun ehangach o ran helpu eraill a gwerthfawrogi eu barn a'u nodau mewn bywyd.  Rydym yn byw gyda'n gilydd fel rhan o'n bywydau o ddydd i ddydd, yn dysgu yn niogelwch ein cartref ac yn bennaf oll mae gennym ddiddordeb yn eu bywydau a sut maent yn dod yn eu blaen."

"Y peth gorau am yr hyn rwy'n ei wneud yw ei gweld hi'n tyfu mewn hyder a gallu.  Mae hi'n unigolyn gofalgar, pan fydd hi'n ysgrifennu nodyn diolch i mi neu'n cael cerdyn i mi ac mae hi'n ei roi i mi gyda gwên fawr ar ei hwyneb.  Mae'r rhain yn fy atgoffa'n arbennig ei bod hi'n dod â llawer o lawenydd i'm bywyd"

Contacts

Feedback about a page here