Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hen Neuadd y Farchnad

Old Market Hall in Llanidloes

14 Mawrth 2023

Old Market Hall in Llanidloes
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod cam cyntaf y gwaith ar Hen Neuadd y Farchnad yn Llanidloes sy'n adeilad rhestredig Gradd I wedi'i gwblhau.

Bydd y sgaffaldau yn cael eu tynnu i lawr a'r ffyrdd yn ail-agor ddydd Gwener 17 Mawrth 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Yn ddiweddar, manteisiais ar y cyfle i ymweld â Hen Neuadd y Farchnad gyda Glyn Preston y Cynghorydd lleol i adolygu'r cynnydd ac mae'n bleser gen i gyhoeddi bod y cam cyntaf o'r gwaith wedi'i gwblhau.  Hoffwn ddiolch i'r holl drigolion a busnesau am eu cydweithrediad."

"Yn anffodus, oherwydd y gwaith ychwanegol sydd angen ei wneud, nid ydym wedi gallu cwblhau'r holl waith a gynlluniwyd ar gyfer yr adeilad. O ystyried hyn, ac i darfu cyn lleied â phosibl drwy'r tymor ymwelwyr, rydym wedi gohirio cam 2 y gwaith tan Hydref 2023 a byddwn yn darparu diweddariadau pellach maes o law."

Bydd y bwriad i gau Stryd y Bont Fer oedd i ddechrau'r mis hwn hefyd yn cael ei ohirio tan yr Hydref ar gyfer y gwaith cam 2.

Mae'r gwaith atgyweirio mewnol ac allanol yn cael ei wneud fel rhan o'r gwaith ar yr adeilad hanesyddol.

Cyngor Sir Powys sy'n gyfrifol am y strwythur o'r 16eg ganrif ac fe benodwyd Penseiri Hughes o Ganolbarth Cymru i reoli'r gwaith a gychwynnodd ar y safle ym mis Ionawr.