Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Uwch Siryf Powys yn cynnal digwyddiad arbennig o ddathliad Wcreinaidd

Image of Representatives from PAVO are pictured their award and with the High Sheriff of Powys, Tom Jones OBE

21 Mawrth 2023

Image of Representatives from PAVO are pictured their award and with the High Sheriff of Powys, Tom Jones OBE
Rhoddwyd cydnabyddiaeth mewn dathliad arbennig i unigolion, busnesau lleol, grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi cefnogi a chroesawu pobl Wcreinaidd i Bowys.

Cafodd Dathliad o Gefnogaeth Powys i Bobl Wcráin, a gynhaliwyd gan Uwch Siryf Powys, Tom Jones OBE, ei gynnal yn Y Gaer, Aberhonddu ddydd Mercher 15 Mawrth.

Mae 446 o unigolion Wcreinaidd wedi dod i Bowys gyda 248 o Wcreiniaid yn parhau i fyw yn y sir fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth DU, gyda Llywodraeth Cymru'n Uwch-noddwr iddo.

Fel rhan o'r digwyddiad, clywodd gwahoddedigion a mawrogion siaradwyr gwadd gan gynnwys:

  • Neges fideo oddi wrth Ivan Slobodyanyk, Cyfarwyddwr Gweithredol 'All Ukrainian Association of Communities'
  • Elizabeth Daniels a rannodd ei phrofiadau'n croesawu teulu o Wcreiniaid
  • Iryna Yemets a Maryna Korolov a rannodd eu profiadau'n adsefydlu ym Mhowys
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a siaradodd am y gefnogaeth ledled Cymru a roddwyd i westeion Wcreinaidd.

Fodd bynnag, yn ystod prif ran y digwyddiad gwnaeth Uwch Siryf Powys ac Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt, gyflwyno gwobrau cydnabyddiaeth arbennig i'r rheini yn y sir sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig iawn wrth gefnogi'r Wcreiniaid ac Wcráin.

Cafodd y gwobrau cydnabyddiaeth arbennig eu cyflwyno i'r canlynol:

  • Y Parchedig Richard Wootten
  • Igor Sydorov
  • Andrea a Rohan Murdoch a Gwesty'r Commodore
  • Noddfa i Ffoaduriaid Y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth ac Mae Crughywel yn Cefnogi Wcráin
  • Jane Morgan
  • Sarah Shuffell
  • PAVO - Ar ran y Sector Gwirfoddol ym Mhowys
  • Cyngor Sir Powys - Tîm Adsefydlu Wcreiniaid

"Roedd gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys yn fraint wirioneddol i ddarparu cyfle i ddiolch i nifer o'r rheini sy'n darparu cartrefi, cymorth a chyfeillgarwch i'r ffoaduriaid Wcreinaidd ac eraill sy'n byw ym Mhowys ar hyn o bryd. Roedd clywed ymateb a phrofiad yr Wcreiniaid yn wirioneddol deimladwy ac ysbrydoledig," dywedodd Uwch Siryf Powys, Tom Jones OBE.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Bowys Decach: "Mae hon yn seremoni wych a hoffem ddiolch i Uwch Siryf Powys am ddod â ni ynghyd i ddathlu beth sydd wedi bod yn ymdrech fawr o gefnogaeth gymunedol, rhannu gobaith ac undod ar gyfer ein ffrindiau a'n cymdogion Wcreinaidd ac ar y cyd â nhw.

"Mae derbynyddion y gwobrau hyn yn llwyr haeddu'r gwobrau cydnabyddiaeth arbennig hyn. Ar ran Cyngor Sir Powys, hoffem ddiolch iddyn nhw ac i bawb arall yn y sir am yr holl help a chymorth maen nhw wedi ei gynnig i'r rhai sydd mewn angen."

Bywgraffiadau gwobrau cydnabyddiaeth arbennig

Y Parchedig Richard Wootten

Bu'r Parchedig Wooten yn gefn arweiniol i westeion Wcreinaidd, a'u gwestywyr, sydd wedi setlo yn Aberhonddu a'r cyffiniau gan hyrwyddo'u hachos ledled ardal Aberhonddu. Sicrhaodd Richard fod Eglwys Dewi Sant yn noddfa groesawgar ac mae wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i westeion Wcreinaidd gan gynnwys, drwy ganiatâd caredig yr Esgob, dathliad Nadolig Uniongred a dathlu'r Diwrnod o Undod Wcreinaidd.

Mae Richard wedi rhoi blaenoriaeth i'w hanghenion ar hyd yr adeg ac mae wedi bod yn eiriolwr gwych dros Wcreiniaid ym Mhowys.

Igor Sydorov

I lawer yn ardal Aberhonddu, mae Igor wedi dyfod i fod yn wyneb ac yn llais i'r Wcreiniaid yn y dref. Bu Igor yn allweddol yn dwyn aelodau'r gymuned Wcreinaidd ynghyd yn Aberhonddu, gan weithio ag asiantaethau amrywiol, ac mae wedi bod yn allweddol wrth sefydlu cymorth i'w gyd-Wcreiniaid. Mae Igor wedi darparu llais i'r rheini sy'n teimlo'n llai abl i siarad a rhannu eu profiadau. 

Andrea a Rohan Murdoch a Gwesty'r Commodore

Gofynnwyd i Westy'r Commodore fod yn safle llety cychwynnol gan Lywodraeth Cymru. Sicrhaodd Andrea a Rohan fod y gwesteion yn derbyn croeso sy'n wirioneddol nodweddiadol o Bowys. Roedden nhw yno i roi popeth angenrheidiol iddyn nhw gan gefnogi'r rheini yn y gwesty fel pe bydden nhw'n deulu iddyn nhw eu hunain.

Derbyniodd y gwesteion y cyfan oedd ei angen arnynt, a gwnaeth Andrea a Rohan fwy na'r hyn y byddai disgwyl i ddarparwyr llety ei wneud. Diolch i'w hymdrechion, mae nifer o Wcreiniaid wedi dewis ymgartrefu yn Llandrindod.

Noddfa i Ffoaduriaid Y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth ac Mae Crughywel yn Cefnogi Wcráin.

Mae Noddfa i Ffoaduriaid Y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth ac Mae Crughywel yn Cefnogi Wcráin yn gweithio'n agos iawn at ei gilydd ac maen nhw wedi trefnu sawl digwyddiad gan gynnwys dathliadau Nadolig, teithiau cerdded ledled yr ardal leol yn ogystal â digwyddiadau codi arian rheolaidd. Yn ychwanegol, mae'r grwpiau'n trefnu sesiynau cwestiwn ac ateb rheolaidd â gwleidyddion lleol a chenedlaethol a gwneuthurwyr polisi, gan alluogi'r rhieni sy'n gwneud y penderfyniadau i glywed yn uniongyrchol o'n gwesteion a'r materion y maen nhw'n eu hwynebu.

Jane Morgan

Sefydlodd Jane grŵp Facebook o'r enw 'Buy and Sell UK - 100% to the DEC Ukraine Appeal ' ym mis Mawrth 2022 er mwyn codi arian i'r rheini a gafodd eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin. Dechreuodd y grŵp gyda 12 person a bellach mae'r aelodaeth wedi codi i dros 1,500 o bobl. Mae aelodau'r grŵp yn rhoddi eitemau di-eisiau i aelodau eraill eu prynu, gyda'r rhoddion yn cael eu rhoi'n uniongyrchol i 'DEC Ukraine Humanitarian Appeal'. Mae'r grŵp wedi codi dros £24,000 bellach, ac mae'r cyfan wedi gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi'r rheini yn Wcráin.

Sarah Shuffell

Mae Sarah'n gyn-gyflogai i Wasanaeth Byd y BBC ac roedd hi ar dir Wcráin pan ddechreuodd y rhyfel. Yn ystod yr amser hwnnw roedd is-gontract ganddi gyda Reuters gan ddarparu cymorth technegol i newyddiadurwyr Wcreinaidd fel eu bod yn gallu darlledu ac adrodd eu stori am y rhyfel ledled y byd. Daeth Sarah a phedwar cydweithiwr ynghyd i ymateb i anghenion pobl Wcráin, ac fel grŵp gwnaethon nhw gartrefu 1,200 o ffoaduriaid Wcreinaidd gyda gwestywyr yng Nghymru, gyda Sarah ei hun yn lleoli tua 300 o westeion gyda gwestywyr.

PAVO - Ar Ran y Sector Gwirfoddol ym Mhowys

Cyn gynted ag y torrodd y newyddion am y rhyfel yn Wcráin, aeth y sector gwirfoddol ym Mhowys ati unwaith yn rhagor i godi arian i ddechrau i ddarparu cymorth i'r rheini a effeithiwyd gan y rhyfel, cyn cefnogi'r ffoaduriaid a gyrhaeddodd ym Mhowys i adsefydlu. Mae'r grwpiau cymorth sydd gennym ledled Powys wedi bod yn ffantastig, ond daeth y sector gwirfoddol i gyd at ei gilydd; o drafnidiaeth gymunedol, banciau bwyd, a sefydliadau chwaraeon i wneud i'r Wcreiniaid deimlo eu bod nhw'n cael eu croesawu ym Mhowys. Mae'n amhosibl enwi pob un grŵp sydd wedi gwneud gwahaniaeth, ond mae'r wobr hon yn cydnabod yr effaith gafodd y sector gwirfoddol wrth groesawu gwesteion Wcreinaidd.

Tîm Adsefydlu Wcreinaidd Cyngor Sir Powys

Mae Tîm Adsefydlu Wcreinaidd Cyngor Sir Powys, dan arweiniad Clare Davies, wedi cefnogi gwesteion a gwestywyr ar hyd eu taith adsefydlu. Mae pob dydd yn wahanol, ac mae'n dod â her newydd, rhywbeth y mae'r tîm wedi gafael ynddo; maen nhw wedi "mynd ati gyda'r job" gan osod anghenion ein gwesteion yn gyntaf bob tro.  Fel pawb sy'n ymwneud â hyn, maen nhw wedi bod yn dysgu bob un diwrnod, ond mae pob un aelod o'r tîm wedi derbyn yr her.

Mae Powys wedi croesawu dros 440 o unigolion o Wcráin, a chafodd bob un ei gefnogi gan y tîm hwn, yn ogystal ag mewn meysydd eraill o'r sector cyhoeddus ym Mhowys.