Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyd yn oed mwy o anfantais i gymunedau Powys yn sgil newidiadau posibl i drefn band eang

Image of fibre optic stands with an ethernet cable

21 Mawrth 2023

Image of fibre optic stands with an ethernet cable
Mae uwch gynghorydd sir wedi rhybuddio y gallai newidiadau yn y ffordd y mae rhaglen cymhorthdal band eang yn cael ei chyflwyno golygu y gallai trigolion a busnesau Powys fod o dan hyd yn oed mwy o anfantais.

Nod Rhaglen Cymhorthdal Seilwaith Gigabit, sy'n rhan o raglen Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU  gwerth £5 biliwn, yw darparu band eang cyflym iawn i ardaloedd y DU anoddaf eu cyrraedd ac na fyddai fel arall yn cael y gwasanaeth gan gwmnïau masnachol.

Fodd bynnag, mae pryderon wedi'u codi y bydd aelwydydd a busnesau anodd eu cyrraedd yn y sir yn cael eu heffeithio'n negyddol os yw newidiadau posibl i drefn y rhaglen band eang hon yn cael sêl bendith.

Bwriad presennol yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yw dynodi canolbarth Cymru gyfan yn ardal gaffael Categori C ond gallai'r dosbarthiad hwn eithrio llawer o Ddarparwyr Rhwydwaith Amgen Band Eang rhag darparu cynlluniau band eang yn y sir, gan olygu mai dim ond y darparwyr mwyaf fyddai'n gallu darparu band eang gwib.

Ar y llaw arall, bydd ardaloedd eraill o Gymru mewn categori gwahanol a fydd yn cynnig mwy o gystadleuaeth i bob darparwr ddarparu eu rhwydweithiau ffibr llawn o fewn amserlenni byrrach.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae mynediad at ryngrwyd cyflym yn hanfodol ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol cymunedau gwledig. Mae diffyg seilwaith band eang digonol yn her fawr i drigolion a busnesau ym Mhowys, gyda nifer yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd sylfaenol.

"Credaf y bydd cystadleuaeth rhwng darparwyr rhwydwaith amgen yn sicrhau y gall ein trigolion gael mynediad at wasanaethau o'r safon uchaf am brisiau fforddiadwy. Bydd cael un darparwr yn darparu band eang gwib, sy'n seiliedig ar ffibr, ddim yn rhoi gwasanaeth da i'n trigolion a'n busnesau mwyaf anodd eu cyrraedd, sydd eisoes dan anfantais.

"Gallai'r newid arfaethedig hwn gwaethygu'r sefyllfa, gan gyfyngu dewis a rhwystro'r defnydd o rhwydweithiau band eang amgen a allai fod yn hollol hanfodol i rai mewn angen.

"Rwy'n ofni y bydd unrhyw newidiadau yn cael effeithiau negyddol hirdymor ar ragolygon economaidd y rhanbarth. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, Y Gwir Anrhydeddus Michelle Donelan AS, am y pryderon hyn ac rwyf wedi gofyn iddi ailystyried y newidiadau er mwyn adlewyrchu'n well safbwyntiau ac anghenion ein cymunedau lleol."