Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Stryd yn Llanandras i aros yn unffordd yn dilyn treial llwyddiannus

Image of Hereford Street, Presteigne

22 Mawrth 2023

Image of Hereford Street, Presteigne
Cyflwynwyd y stryd unffordd nôl ym Medi 2021 ar Stryd Henffordd Llanandras i helpu lleihau tagfeydd ac i'w wneud yn haws i gerddwyr a beicwyr gael mynediad at amwynderau lleol.

Ar ddiwedd cyfnod y treial, cafodd holl sylwadau'r gymuned eu hystyried fel rhan o adolygiad cynhwysfawr, ac roedd yn amlwg fod y system unffordd wedi bod yn llwyddiant ysgubol a chytunwyd i'w fabwysiadu ar sail barhaol. Bydd rhai mân ddiwygiadau i'r seilwaith yn cael eu gwneud er mwyn gwella diogelwch ar y ffordd, ac i annog gyrrwyr nad ydynt yn gyfarwydd gyda chynllun y ffordd rhag mynd i'r cyfeiriad anghywir. Ymhlith y newidiadau hyn, a awgrymwyd gan y gymuned yn ystod y cyfnod treial, mae creu rhwystr ymwthiol yn y ffordd yn ymyl pen y system unffordd ger gorsaf yr heddlu, ac ail-leoli un o'r arwyddion.

Tra bydd yr addasiadau hyn yn cael eu cyflawni, hwyrach y bydd peth tarfu ar draffig sy'n teithio ar hyd Stryd Henffordd am ychydig o ddyddiau, ond y bwriad yw sicrhau fod yr effaith mor isel â phosibl.

Ar ôl cwblhau'r gwaith yma, bydd y broses wedyn yn symud ymlaen at ehangu pen y Stryd Fawr. Er taw'r bwriad gwreiddiol oedd cyflawni'r gwaith yma'r wythnos hon, penderfynwyd yn ddiweddar i orffen y gwaith ar Stryd Henffordd yn gyntaf, cyn cychwyn ar y gwaith ar y Stryd Fawr.

Disgwylir i'r gwaith i godi'r adran goblog ar ben y stryd, ger y llyfrgell, i'w uno â'r pafin yn barhaol gymryd pythefnos ar y mwyaf i'w gwblhau. Tra bydd y gwaith yma'n digwydd, bydd y pafin ar gau, ond bydd mynediad at y siopau yn cael ei gynnal.

Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd y pafin lletach yn gwella mynediad yn y dref, ac yn sicrhau fod y rhodfa'n hygyrch i bawb, yn enwedig ar ddyddiau prysur, neu i bobl sy'n gwthio bygis neu'n defnyddio cadair olwyn.

"Ers nifer o flynyddoedd, mae'r gymuned leol wedi elwa o nifer o welliannau a wnaethpwyd gan Gyngor Sir Powys fel rhan o brosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru," eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Dyluniwyd y cynllun teithio llesol yn Llanandras i annog pobl i gerdded neu feicio wrth gymryd teithiau byr, yn hytrach na gyrru, yn enwedig wrth fynd â phlant i'r ysgol. Gyda llwybrau diogel ar hyd y rhan fwyaf o'r ffordd osgoi, sy'n cysylltu â'r ysgol uwchradd a'r ysgol gynradd, yn ogystal â thua canol y dref a stadau tai'r dref, ein gobaith yw annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref.

"Hoffem ddiolch i'r gymuned a phawb oedd yn gysylltiedig â gweithio gyda Phowys i roi'r newidiadau hyn yn eu lle a fydd yn gwella symudiad o gwmpas y dref hanesyddol hon gan wneud profiad yr ymwelydd yn well i bawb."