Toglo gwelededd dewislen symudol

Datgelu rhaglen tai cyngor uchelgeisiol

Image of Clos-Yr-Hen-Ysgol in Llanidloes

22 Mawrth 2023

Image of Clos-Yr-Hen-Ysgol in Llanidloes
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi dros £159 miliwn fel rhan o raglen pum mlynedd, fydd yn golygu adeiladu cartrefi cyngor newydd a chyflawni gwelliannau i gartrefi presennol y cyngor.

Mae'r cyngor wedi datgelu ei gynllun newydd "Gartref ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai", fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar ddydd Mawrth 28 Mawrth.

Byddai'r cynllun uchelgeisiol yn golygu y byddai'r cyngor yn adeiladu mwy na 310 o gartrefi newydd erbyn 2027-28 fel rhan o becyn buddsoddi gwerth bron £79 miliwn.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys buddsoddi dros £31 miliwn dros y pum mlynedd nesaf yng nghartrefi presennol y Cyngor i sicrhau eu bod yn parhau i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, sy'n golygu bod yn rhaid i gartrefi sy'n eiddo i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da.

Ymhlith rhaglenni gwaith eraill sy'n rhan o'r Cynllun Busnes Tai mae:

  • Cydymffurfiad Cant y Cant - Mwy na £9.3 miliwn i sicrhau fod pob tŷ cyngor ac asedau cysylltiedig yn cydymffurfio 100% gyda'r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol a phriodol;
  • Powys Werdd - Dros £15.6 miliwn i gynyddu effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi sy'n eiddo i'r cyngor, i leihau tlodi tanwydd, helpu torri allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Hefyd bydd yn cynnwys cyllid i annog a chefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer stadau tai cyngor;
  • Addas i'w Ddiben - Mwy na £6.8 miliwn i sicrhau fod cartrefi'r cyngor yn fwy addas o ran anghenion pobl hŷn a'r sawl sydd ag anghenion sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n amharu ar neu'n cael effaith niweidiol ar symudedd; a
  • Caru Lle Ry'ch chi'n Byw - Dros £7.9 miliwn i wella llesiant cymunedau trwy welliannau i gartrefi a stadau'r cyngor.

Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn helpu mynd i'r afael ag argyfwng tai'r sir trwy adeiladu tai cyngor uchel eu hansawdd

"Mae cynllun Gartref ym Mhowys yn sicrhau'r arian angenrheidiol i wneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o safbwynt ynni ar gyfer ein tenantiaid - a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a sicrhau fod cartrefi'r cyngor yn chwarae eu rhan wrth ddelio gyda newid hinsawdd.

"Mae'r cynllun hefyd yn addo buddsoddiad parhaus yn ein cartrefi presennol i sicrhau ein bod yn parhau i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.

"Bydd y cynllun hwn yn helpu adeiladu dyfodol cryfach, tecach, gwyrddach ar gyfer Powys."