Toglo gwelededd dewislen symudol

Taliadau meysydd parcio i godi ym mis Ebrill

Image of parked cars

27 Mawrth 2023

Image of parked cars
Yn ystod y broses anodd i osod y gyllideb fis diwethaf, cytunodd cabinet Cyngor Sir Powys i gynyddu rhai o'r taliadau mewn meysydd parcio talu ac arddangos ar draws y sir o 18 Ebrill 2023.

Er y bydd rhai o'r costau aros am gyfnod byrrach yn codi, bydd y ffi i barcio yn y meysydd parcio arhosiad hir am y diwrnod (dros bedair awr) a thrwyddedau yn aros yr un fath, gan sicrhau nad yw'r rhai sy'n defnyddio'r meysydd parcio ar gyfer gwaith neu barcio preswyl yn cael eu cosbi. Bydd parcio rhwng 6pm ac 8am yn parhau i fod am ddim.

"Mae'r amodau economaidd digynsail presennol wedi gwneud y gwaith o gydbwyso cyllideb 2023-2024 yn anodd iawn." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae pwysau'r gyllideb i'w deimlo ar draws y cyngor, gyda phob maes yn gweithio'n galed i leihau costau tra'n parhau i ddarparu gwasanaethau o safon i bobl Powys.

"Dyma'r tro cyntaf mae taliadau parcio yn ein meysydd parcio talu ac arddangos wedi codi ers bron i bedair blynedd. Mae'r cynnydd wedi helpu'r cyngor mewn ffordd fach i gymeradwyo cyllideb gyffredinol gyda chynnydd is na chwyddiant yn Nhreth y Cyngor a chynlluniau gwariant yn y meysydd sydd â'r angen mwyaf, fel ysgolion a gwasanaethau sy'n cefnogi pobl ar yr adegau anoddaf.

"Mae'r incwm sy'n cael ei greu trwy daliadau parcio yn cael ei ddefnyddio i gynnal a gwella'r meysydd parcio ym Mhowys, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, yn gyfoes ac yn ddiogel i'w defnyddio gan bawb. Mae hyn, ynghyd â'r agenda trawsnewid trefi, wedi gweld gwelliannau mawr yng nghanol llawer o'n trefi hyd yma, gan eu gwneud yn llefydd deniadol i ymweld â nhw, nid yn unig i bobl Powys, ond i'n hymwelwyr hefyd. Mae'r gwaith hwn yn parhau wrth i gynlluniau trefi gael eu mabwysiadu ledled y sir.

"Mae ein gwaith i wella'r llwybrau teithio llesol ar draws y sir yn parhau ar garlam, ac rydym yn falch o weld mwy o bobl yn dewis gwneud teithiau byr ar droed neu ar gefn beic yn ein trefi a'r cyffiniau. Nid yn unig mae hyn yn lleihau'r ddibyniaeth ar y meysydd parcio, ond mae hefyd yn hynod fuddiol i'n hiechyd a'n lles gan leihau ein hôl troed carbon a helpu'r amgylchedd."

Am daliadau parcio, ewch i: Ffioedd safonol y meysydd parcio