Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cabinet yn cytuno i adolygiad o wasanaethau'r gaeaf ar ffyrdd Powys

Image of a snow plough

28 Mawrth 2023

Image of a snow plough
Cafodd gynigion i ail-asesu'r ffordd y mae ffyrdd Powys yn cael eu gwasanaethu dros fisoedd y gaeaf eu hystyried a'u cytuno gan Gabinet Cyngor Sir Powys heddiw (28 Mawrth).

Mae rhwydwaith ffyrdd Powys yn ymestyn dros 5,500 cilomedr ac mae'n cynnwys ffyrdd y sir (sy'n cael eu cynnal a'u rheoli gan Gyngor Sir Powys) a chefnffyrdd (sy'n cael eu cynnal a'u rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru NMWTRA ar ran Llywodraeth Cymru.

"Yn hanesyddol, mae'r ffordd y mae'r ffyrdd hyn wedi cael eu gwasanaethu a'u cynnal dros fisoedd y gaeaf wedi esblygu ar lefel lleol."  Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

Er bod y rhesymeg tu ôl i raglen gwasanaethau'r gaeaf cyfredol wedi bod â bwriadau da, nawr yw'r amser i'w adolygu yn erbyn cod ymarferion cenedlaethol ac anghenion cyfredol a modern ein sir."

Yn dilyn cytundeb y cabinet nôl ym mis Hydref 2019 penderfynwyd y dylid adolygu' rhaglen gyfredol gwasanaethau'r gaeaf ac y dylid dod â chynigion newydd yn ôl i'r cabinet i'w hystyried.

Gan weithio gydag arweiniad Grŵp Ymchwil Gwasanaethau'r Gaeaf Cenedlaethol (NWSRG) a'r Cod Ymarfer: Seilwaith Priffyrdd a reolir yn dda, y bwriad yw categoreiddio holl ffyrdd Powys gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar risg ac ar sail tystiolaeth. Yn syml mae hyn yn golygu y byddwn yn ystyried nifer o ffactorau ar gyfer pob ffordd, gan gynnwys maint y traffig, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, amwynderau megis siopau a gwasanaethau hanfodol fel ysgolion, canolfannau meddygol a lleoliad y gwasanaethau brys.

Unwaith y bydd y categori arfaethedig ar gyfer pob ffordd wedi'i gadarnhau, gallwn gymhwyso'r rhain yn nhermau ymarferol, gan ddatblygu set arfaethedig o lwybrau gwasanaethau'r gaeaf ar gyfer y sir gyfan a fydd wedi'u creu drwy ddull agored, cyson a theg i ddarparu gwasanaethau cyfartal i Bowys gyfan.

Aeth y Cynghorydd Charlton yn ei blaen: "Yn dilyn ystyriaeth ofalus, mae'r cabinet wedi cytuno â'r cynigion hyn i adolygu gwasanaethau'r gaeaf ar ffyrdd y sir, ein cam nesaf fydd gwneud yn siwr bod pobl Powys, aelodau lleol a'n mudiadau partner yn cael y cyfle i ddweud eu dweud ar sut mae'r broses categoreiddio ffyrdd yn cael ei roi ar waith.

"Trwy ymarfer ymgysylltu cyhoeddus ar-lein, byddwn yn rhannu rhestr o'r meini prawf a fydd yn helpu i gategoreiddio pob ffordd, megis amwynderau, gwasanaethau hanfodol a brys, gan ofyn i gyfranogwyr helpu i osod y rhain yn nhrefn blaenoriaeth pan fydd hi'n dod i wasanaethau'r gaeaf.

"Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cwrdd â disgwyliadau'r cymunedau ac yn cymhwyso'r meini prawf terfynol yn deg ar draws y sir gyfan."

"Mae'n bwysig cofio na allwn wasanaethu, na thrin, pob un o'r 5,500km o ffyrdd ar yr un lefel drwy gydol misoedd y gaeaf. Bydd yr adolygiad hwn o wasanaethau'r gaeaf yn ein helpu i flaenoriaethu'r ffyrdd a'r llwybrau yn deg ar draws Powys, a hoffem ddiolch ymlaen llaw i bawb a fydd yn cyfrannu at yr ymarfer ymgysylltu ar-lein. Fel bob amser, bydd eich adborth yn amhrisiadwy, diolch."

Bydd yr ymarfer ymgysylltu cyhoeddus ar yr Adolygiad o Wasanaethau'r Gaeaf ar Ffyrdd Powys ar-lein o 3 Ebrill 2023:  https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/