Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

Stronger, Fairer, Greener

31 Mawrth 2023

Stronger, Fairer, Greener
Mae dogfen sy'n amlinellu gweledigaeth, amcanion a blaenoriaethau Cyngor Sir Powys ar gyfer y pedair blynedd nesaf wedi cael ei chyhoeddi.

Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Mae'r cynllun yn rhoi manylion blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys a pha weithredu sydd ei angen i'w cyflenwi.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Rydym ni'n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i'r cyngor sir ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

"Dyma'r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu 'Powys Gryfach, Tecach, Wyrddach'.

"Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

"Mae ein hamcanion newydd, sy'n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau.

"Er bod y cynllun wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl Powys wedi'i ddweud, nid yw'r sgwrs ar ben, a byddem yn croesawu unrhyw adborth parhaus ynghylch gwaith y Cyngor. Gellir gweld ein hymgynghoriadau a'n prosiectau ymgysylltu yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ "

Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ar gael ar wefan y Cyngor https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth

Mae cyflwyniad i'r cynllun drwy fide oar gael yma.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu