Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cyngor ac ysgolion i gefnogi Mis y Plentyn Milwrol

Month of the Military Child

03 Ebrill 2023

Month of the Military Child
Mae mis ymwybyddiaeth sy'n amlygu'r rôl bwysig y mae plant yn ei chwarae yng nghymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Powys. 

Caiff Ebrill ei ddynodi fel Mis y Plentyn Milwrol, ac eleni mae ysgolion ledled Powys yn cefnogi'r mis pwysig hwn.

Caiff Mis y Plentyn Milwrol ei gefnogi gan SSCE Cymru hefyd - sy'n hyrwyddo ymwybyddiaeth am anghenion addysgiadol plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru - ac yn anelu at amlygu'r rôl bwysig mae plant milwrol yn ei chwarae yng nghymuned y Lluoedd Arfog.

Bydd ysgolion yn cymryd rhan yn y digwyddiad drwy gyflawni gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth.

Ymhlith y gweithgareddau sy'n cael eu cynnig gan SSCE Cymru mae annog plant Milwrol i fod yn greadigol ac ysgrifennu eu stori eu hunain ynghylch bod yn blentyn milwrol, nodi ar fap o'r byd ble mae plant milrwol wedi byw, neu ble mae eu rhieni wedi cael eu danfon, a gofyn i ddisgyblion ddweud ychydig eiriau o werthfawrogiad o'r Lluoedd Arfog drwy gyfansoddi cerddi, caneuon neu ysgrifennu llythyrau.

Caiff ysgolion hefyd eu hannog i rannu eu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dagio @SSCECymru a defnyddio hashnodau #MisyPlentynMilwrolCymry a #MyPMC.

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o awgrymiadau am weithgareddau ar wefan SSCE Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae Mis y Plentyn Milwrol yn gyfnod i gymeradwyo teuluoedd y Lluoedd Arfog a'u plant am eu haberth ddyddiol a'r heriau maen nhw'n eu goresgyn.

"Mae ein lleoliadau addysg ledled Powys yn cael eu hannog i gyflawni gweithgareddau yn ystod y mis hwn i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am y profiadau unigryw y mae'r grŵp hwn o blant a phobl ifanc yn eu cael a dyfod yn amgylchedd sy'n fwy cyfeillgar i'r Lluoedd Arfog."