Gofalwyr ifanc ac oedolion sy'n gofalu yn ysbrydoli cynghorwyr Powys i eirioli dros eu hachos
3 Ebrill 2023
Mae hyn yn golygu:
- Helpu codi ymwybyddiaeth am y 35,000 o bobl o bob oedran led led Powys sy'n gofalu am anwyliaid gyda salwch neu anabledd.
- Gwerthfawrogi gofalwyr o bob oed; gallant fod yn annweledig, eto maen nhw'n darparu 96% o'r gofal yn ein cymunedau, sydd werth dros 8 biliwn i economi Cymru.
- Ystyried a chydweithredu gyda gofalwyr ifanc ac oedolion sy'n gofalu wrth wneud penderfyniadau a datblygu polisïau ar iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwahodd eraill yn eu hardal i gefnogi, gwerthfawrogi a pharchu gofalwyr ifanc ac oedolion sy'n gofalu, megis ysgolion, gwasanaethau a grwpiau cymunedol lleol.
Dywedodd y Cyng Sian Cox, Aelod Portffolio Dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: "Nid oeddwn yn meddwl y gallwn gael argraff well o Credu na'r gofalwyr ifanc ac oedolion di-dâl sy'n gofalu y maent yn gweithio gyda hwy na'r hyn a gefais yn wreiddiol, ond roeddwn yn anghywir; heddiw, roedden nhw wedi anfon fy edmygaeth a pharch i entrychion newydd.
"Roedd eu cyflwyniad yn eithriadol o dddiddorol, yn deimladwy, yn ddoniol, yn ysbrydoledig ac yn ostyngedig iawn. Dyma rai o'r bobl brysuraf yn y sir, y mae eu hamser yn orlawn o gyfrifoldebau, ond daethant i Neuadd y Sir i ddweud nid yn unig wrthym ni am eu bywydau a'u heriau, ond hefyd am y ffyrdd creadigol, dychmygus a chydweithredol y maent yn ymdrechu i helpu gofalwyr eraill. Rwy'n annog pawb i ddod yn ymwybodol o ofalwyr di-dâl; maent yn bodoli o fewn ein cymunedau heb amheuaeth, o dan y radar, yn annweledig, gan gyflwyno gofal a chefnogaeth anferthol na allai unrhyw awdurdod lleol fyth ddarparu gwasanaeth i gyfateb iddo; a byddai eich cydnabyddiaeth ohonynt am y gwasanaeth aruthrol a ddarperir ganddynt i gymdeithas yn golygu llawer iawn iddynt."
Dywedodd Hayley Pugh, rhiant ofalwr a Chydlynydd Seibiant gyda Credu hefyd erbyn hyn: "Diwrnod anhygoel! Rwyf mor falch o'n gofalwyr a'r holl gynghorwyr sy'n ymuno i eirioli dros Credu a Gofalwyr. Mae'n rhyfeddol yr hyn a all ddigwydd pan ddaw pobl ynghyd a gwrando o ddifrif. Talwch sylw, mae'n amseroedd cyffrous!"
Cadeiriwyd y cyflwyniad yn fedrus gan ofalwr o'r enw Kim Spelman, sydd, fel Hayley, wrth ei bodd gyda pha mor astud a pharchus y gwrandawodd y cynghorwyr ar y gofalwyr, a'r ysbryd o gydweithrediad ac ymrwymiad a ddilynodd.
Disgrifiodd Emily Bleakley, sy'n 18 mlwydd oed ac o'r Drenewydd sut yr oedd wedi gofalu am ei mam oedd â salwch terfynol a'i brawd ag awtistiaeth pan oedd hi'n 14 mlwydd oed. Disgrifiodd pa mor anodd y bu hynny, pa mor bwysig yw'r gefnogaeth a pha mor anodd yw penderfynu mynd i'r brifysgol ai peidio pan mae gennych gyfrifoldebau gofalu. Gallwch glywed mwy oddi wrth Emily ar y ddolen hon: https://www.youtube.com/watch?v=L-PKZtjNmKc
Disgrifiodd Meiriona Davies, sy'n 82 mlwydd oed ac o Ystradgynlais, ei thaith trwy fywyd fel gofalwr ifanc i'w mam o'r cyfnod pan yr oedd yn 7 mlwydd oed, a nawr fel rhiant ofalwr i'w merch ag awtistiaeth a pharlys yr ymennydd sy'n oedolyn, ynghyd â'i gŵr, sydd wedi goroesi strôc. Esboniodd Meiriona, sy'n weithgar wrth gefnogi Gofalwyr eraill yn ei chymuned leol, sut y mae cymaint o ofalwyr tawel; yn annweledig ac yn ynysig.
Disgrifiodd Elizabeth James, sy'n 85 mlwydd oed ac o Landrindod ei phrofiad o ofalu am ei merch ag anawsterau dysgu; gan barhau i godi yn y nos i'w chysuro pan mae'n orbryderus. Roedd Elizabeth a'i gŵr yn ffermwyr. Nid oeddent byth wedi hawlio Lwfans Gofalwyr na'r budd-daliadau yr oedd hawl ganddynt i'w derbyn, oherwydd eu bod yn gallu ymdopi oddi ar incwm y fferm. Fodd bynnag, pan ddaeth Elizabeth yn wraig weddw ac roedd yr esgid yn gwasgu'n ariannol, nid oedd ganddi hawl i unrhyw gefnogaeth ariannol. Nid yw Lwfans Gofalwyr na chefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael i bobl sy'n derbyn pensiwn.
Disgrifiodd gofalwr arall o'r enw Christine Jenkins, o Ystradgynlais, y gofal a ddarparwyd ganddi i'w gŵr sydd â dementia trwy gydol y cyfnod clo, ynghyd â'r unigrwydd a'r heriau a brofodd. Mae Christine ac Elizabeth yn teimlo'n angerddol iawn am ofal dydd rheolaidd sydd o fewn cyrraedd fel ffordd o gefnogi pobl sydd angen gofal a'u teuluoedd.
Disgrifiodd Laura Hares, rhiant ofalwr o'r Trallwng, ei thaith gofalu ei hunan ar gyfer ei mab, a sut nad oedd yn sylweddoli ei bod yn ofalwr fel nifer o rieni eraill. Yn ogystal, disgrifiodd sut y mae hi a gofalwyr eraill o'r Trallwng wedi gweld fod canfod gweithwyr gofal cyflogedig, i helpu gwneud gofalu yn haws i ymdopi ag ef yn her enfawr. Dyma yw symptom o'r argyfwng gofal cymdeithasol heddiw ar draws y wlad. Fodd bynnag, esboniodd Laura sut y mae'n dod ynghyd nawr gyda gofalwyr eraill i ddatblygu model newydd o ddatblygu gweithlu gofal cymdeithasol a gofal dydd sy'n seiliedig ar y gymuned. Roedd diddordeb dwfn gan y cynghorwyr yn y syniad arloesol a gyflwynodd Laura ger eu bron.
Os ydych chi'n gofalu am rywun neu os hoffech eirioli dros ofalwyr ifanc neu oedolion sy'n gofalu yn eich cymuned neu sefydliad yng nghanolbarth Cymru, cysylltwch â Credu. Fe fyddem wrth ein boddau'n clywed oddi wrthych: 01597 823800 / carers@credu.cymru