Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Carcharu masnachwr twyllodrus

Image of a gavel

04 Ebrill 2023

Image of a gavel
Mae masnachwr twyllodrus o Swydd Henffordd, oedd yn targedu dioddefwyr ym Mhowys, wedi cael ei garcharu am 33 mis.

Cafodd Naheed Plumridge ei ddedfrydu gan Lys y Goron Caerwrangon ddydd Gwener, 24 Mawrth ar ôl ei gael yn euog o 14 achos o dwyll ac un cyfrif o fasnachu twyllodrus.

Cafodd yr erlyniad llwyddiannus ei arwain gan Gyngor Swydd Henffordd gyda chymorth Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys.

Yn ôl ymchwiliad gan swyddogion safonau masnach ym Mhowys, yn gynnar yn 2020, roedd Plumridge wedi gwneud gwaith ar do eiddo yn Llandrindod am £2,000, gan fwriadu cadw £1,245 iddo'i hun.

Canfu swyddogion hefyd fod Plumridge wedi adeiladu a gosod socedi trydanol yn 2021 mewn eiddo yn Rhaeadr am £795, gan fwriadu cadw £375 iddo'i hun.

Cafwyd datganiadau tystion gan y dioddefwyr fel rhan o'r ymchwiliad ac fe'u rhannwyd gyda Chyngor Swydd Henffordd, ac roedd y rhain wedi cynorthwyo  i erlyn Plumridge.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae casgliad yr achos hwn yn anfon neges glir na fyddwn yn goddef arferion masnachu fel hyn.

"Dylai'r achos hwn atgoffa ein trigolion i fod yn wyliadwrus o'r troseddau a'r sgamiau hyn er mwyn osgoi dioddef drwy law masnachwr twyllodrus. Byddwn yn annog trigolion i wneud eu hymchwil ar fusnes cyn gwneud cytundeb ac i fod yn ofalus wrth dalu arian ymlaen llaw.

"Ar gyfer gwaith a wnaed mewn cartref preswylydd sy'n fwy na £42 mewn gwerth, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fasnachwyr ddarparu hawliau canslo. Mae hyn yn rhoi 14 diwrnod i gontractau gael eu canslo.

"O dan y gyfraith, mae'n rhaid i fasnachwyr sy'n gwneud unrhyw waith gwerth dros £42 yng nghartref preswylydd, darparu hawliau canslo.  Mae hyn yn rhoi 14 diwrnodau i ganslo contract.

O dan reoliadau, mae'n ofynnol i fasnachwyr arfer diwydrwydd proffesiynol yn y gwaith maen nhw'n ei wneud. Os yw'r cyngor yn derbyn adroddiadau am waith sy'n arbennig o wael neu nad yw fel y disgrifiwyd, yna gallai hyn arwain at ymchwiliad gan ein tîm Safonau Masnach."